Dros 2 ddiwrnod, un diwrnod gwaith ac un diwrnod pan nad ydych yn gweithio, monitro glwcos yn y gwaed unwaith yn y bore cyn bwyta, unwaith 2 awr ar ôl pryd bwyd ac unwaith ar ôl ymarfer corff. Ysgrifennwch bopeth rydych chi'n ei fwyta ar yr un 2 ddiwrnod, nodwch yr hyn a ddysgwyd.
Darllen: Penodau1, 2, 4, 10 a 14
Cadwch olwg ar eich cynllun gweithredu.
Cadwch olwg ar yr hyn yr ydych yn ei fwyta a phryd rydych chi'n bwyta am 2 ddiwrnod, un diwrnod o'r wythnos ac un diwrnod penwythnos.
Byddwn yn ymdrin â gwneud penderfyniadau y tro nesaf; meddyliwch am rywbeth y mae angen i chi wneud penderfyniad amdano yn barod ar gyfer wythnos nesaf.
Darllen: Penodau 2, 4, 10
Cadwch olwg ar eich cynllun gweithredu.
Rhoi sylw i labeli eich hoff fwydydd; ydych chi'n bwyta braster cudd? Ac a yw'n fraster dirlawn (saturated) neu fraster annirlawn (unsaturated).
Edrych ar ddognau (portions) ar labeli bwydydd; dewch â 1-2 label gyda chi’r wythnos nesaf a byddwch yn barod i ddweud beth rydych wedi'i ddarganfod.
Darllen: Penodau 2, 6, 7, 13 a 14
Cadwch olwg ar eich cynllun gweithredu.
Darllen: Penodau 4, 6 a 10
Darllen labeli bwyd; ceisiwch fwyta dognau maint llai o fwydydd sy'n cynnwys llawer o garbohydradau a / neu frasterau.
Cadwch olwg ar faint o ymarfer corff yr ydych yn ei wneud bob dydd.
Cadwch olwg ar eich cynllun gweithredu.
Ystyriwch y mathau o feddyliau sydd gennych; ceisiwch gael gwared ar y rhai negyddol a chael rhai positif yn eu lle.
Cadwch olwg ar ymarfer corff un diwrnod o'r wythnos ac un diwrnod ar y penwythnos; byddwch yn barod i rannu'r hyn a ddysgwyd.
Monitrwch eich glwcos yn y gwaed ddwywaith cyn ac ar ôl bwyta a chyn ac ar ôl ymarfer corff a byddwch yn barod i siarad am hyn os ydych chi wedi gweld unrhyw newidiadau ers i chi wneud hyn bum wythnos yn ôl.
Darllen: Penodau 6, 8, 11, 14
Efallai yr hoffech chi ysgrifennu llythyr at eich meddyg teulu am yr hyn rydych chi wedi'i gyflawni. Gallech hefyd ysgrifennu llythyr at Gydlynydd y sefydliad sy'n darparu'r hyfforddiant. Gallwch gael y cyfeiriad gan y darparwr. Does dim rhaid ichi ei bostio na’i ddangos ond dewch â nhw gyda chi'r wythnos nesaf at eich defnydd eich hun yn y gweithgaredd rhannu.
Cadwch olwg ar eich cynllun gweithredu.
Creu a / neu ddiweddaru rhestr feddyginiaeth a'i chadw'n gyfredol
Darllen: Penodau 13, 14 ac 16
Parhewch i ddefnyddio'ch cynlluniau gweithredu fel cefnogaeth.
Trosolwg o raglen ein Cwrs Hunanreoli Diabetes.
Cysylltwch â'n tîm hunanofal i gael mwy o wybodaeth am ein cyrsiau iechyd a lles, gan gynnwys sut i archebu eich lle.