Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Raglen y Cwrs - Byw gyda Diabetes Math 2

Trosolwg o'r rhaglen

 

Wythnos 1 

  • Trosolwg o hunanreolaeth a diabetes 
  • Maeth / Bwyta'n Iach 
  • Gwneud cynllun gweithredu 
  • Monitro diabetes a glwcos yn y gwaed 

Wythnos 2 

  • Maeth / Bwyta'n Iach 
  • Gwneud cynllun gweithredu 
  • Monitro diabetes a glwcos yn y gwaed 
  • Datrys Problemau 
  • Adborth 
  • Delio â straen 

Wythnos 3 

  • Maeth / Bwyta'n Iach 
  • Gwneud cynllun gweithredu 
  • Monitro diabetes a glwcos yn y gwaed 
  • Datrys Problemau 
  • Adborth 
  • Atal glwcos isel yn y gwaed 
  • Atal cymhlethdodau 
  • Gwneud penderfyniadau 
  • Gweithgaredd corfforol / ymarfer corff 

Wythnos 4 

  • Maeth / Bwyta'n Iach 
  • Gwneud cynllun gweithredu 
  • Monitro diabetes a glwcos yn y gwaed 
  • Datrys Problemau 
  • Adborth 
  • Emosiynau anodd 

Wythnos 5 

  • Gwneud cynllun gweithredu 
  • Monitro diabetes a glwcos yn y gwaed 
  • Datrys Problemau 
  • Adborth 
  • Gweithgaredd corfforol / ymarfer corff 
  • Hwyliau Isel ac Iselder 
  • Meddwl yn bositif 
  • Technegau ymlacio 
  • Cyfathrebu 

Wythnos 6 

  • Monitro diabetes a glwcos yn y gwaed 
  • Datrys Problemau 
  • Adborth 
  • Dyddiau salwch
  • Gofal traed 
  • Meddyginiaeth 
  • Gweithio gyda'ch Tîm Gofal Iechyd 
  • Edrych yn Ôl a Chynllunio ar gyfer y Dyfodol 
Gweithgaredd y Tu Allan i'r Cwrs fesul Sesiwn 
Sesiwn 1: 
  • Dros 2 ddiwrnod, un diwrnod gwaith ac un diwrnod pan nad ydych yn gweithio, monitro glwcos yn y gwaed unwaith yn y bore cyn bwyta, unwaith 2 awr ar ôl pryd bwyd ac unwaith ar ôl ymarfer corff. Ysgrifennwch bopeth rydych chi'n ei fwyta ar yr un 2 ddiwrnod, nodwch yr hyn a ddysgwyd. 

  • Darllen: Penodau1, 2, 4, 10 a 14 

  • Cadwch olwg ar eich cynllun gweithredu. 

Sesiwn 2: 
  • Cadwch olwg ar yr hyn yr ydych yn ei fwyta a phryd rydych chi'n bwyta am 2 ddiwrnod, un diwrnod o'r wythnos ac un diwrnod penwythnos. 

  • Byddwn yn ymdrin â gwneud penderfyniadau y tro nesaf; meddyliwch am rywbeth y mae angen i chi wneud penderfyniad amdano yn barod ar gyfer wythnos nesaf. 

  • Darllen: Penodau 2, 4, 10 

  • Cadwch olwg ar eich cynllun gweithredu. 

Sesiwn 3: 
  • Rhoi sylw i labeli eich hoff fwydydd; ydych chi'n bwyta braster cudd? Ac a yw'n fraster dirlawn (saturated) neu fraster annirlawn (unsaturated). 

  • Edrych ar ddognau (portions) ar labeli bwydydd; dewch â 1-2 label gyda chi’r wythnos nesaf a byddwch yn barod i ddweud beth rydych wedi'i ddarganfod. 

  • Darllen: Penodau 2, 6, 7, 13 a 14 

  • Cadwch olwg ar eich cynllun gweithredu. 

Sesiwn 4: 
  • Darllen: Penodau 4, 6 a 10 

  • Darllen labeli bwyd; ceisiwch fwyta dognau maint llai o fwydydd sy'n cynnwys llawer o garbohydradau a / neu frasterau. 

  • Cadwch olwg ar faint o ymarfer corff yr ydych yn ei wneud bob dydd. 

  • Cadwch olwg ar eich cynllun gweithredu. 

Sesiwn 5: 
  • Ystyriwch y mathau o feddyliau sydd gennych; ceisiwch gael gwared ar y rhai negyddol a chael rhai positif yn eu lle. 

  • Cadwch olwg ar ymarfer corff un diwrnod o'r wythnos ac un diwrnod ar y penwythnos; byddwch yn barod i rannu'r hyn a ddysgwyd. 

  • Monitrwch eich glwcos yn y gwaed ddwywaith cyn ac ar ôl bwyta a chyn ac ar ôl ymarfer corff a byddwch yn barod i siarad am hyn os ydych chi wedi gweld unrhyw newidiadau ers i chi wneud hyn bum wythnos yn ôl. 

  • Darllen: Penodau 6, 8, 11, 14 

  • Efallai yr hoffech chi ysgrifennu llythyr at eich meddyg teulu am yr hyn rydych chi wedi'i gyflawni. Gallech hefyd ysgrifennu llythyr at Gydlynydd y sefydliad sy'n darparu'r hyfforddiant. Gallwch gael y cyfeiriad gan y darparwr. Does dim rhaid ichi ei bostio na’i ddangos ond dewch â nhw gyda chi'r wythnos nesaf at eich defnydd eich hun yn y gweithgaredd rhannu. 

  • Cadwch olwg ar eich cynllun gweithredu. 

Sesiwn 6: 
  • Creu a / neu ddiweddaru rhestr feddyginiaeth a'i chadw'n gyfredol 

  • Darllen: Penodau 13, 14 ac 16 

  • Parhewch i ddefnyddio'ch cynlluniau gweithredu fel cefnogaeth. 

 

Trosolwg o raglen ein Cwrs Hunanreoli Diabetes.

Cysylltwch â'n tîm hunanofal i gael mwy o wybodaeth am ein cyrsiau iechyd a lles, gan gynnwys sut i archebu eich lle.