Os ydych yn feichiog ac yn defnyddio meddyginiaeth anghyfreithlon neu feddyginiaeth presgripsiwn, dylech geisio cyngor gan eich Meddyg Teulu neu Fydwraig cyn gynted â phosibl.
Oherwydd y peryglon ynghlwm mewn cymryd cyffuriau yn ystod beichiogrwydd, rydym yn cynghori’r holl ferched beichiog i osgoi unrhyw gyffuriau oni bai eu bod wedi eu rhagnodi gan ymarferydd meddygol. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am feddyginiaeth ddiogel mewn beichiogrwydd.
Mae’r tymor cyntaf (hyd at 12 wythnos) yn gyfnod hollbwysig yn natblygiad eich babi ac mae’n bwysig eich bod yn ceisio gofal cyn-enedigol cyn gynted â’ch bod yn canfod eich bod yn feichiog.
Pa un a ydych yn defnyddio cyffuriau anghyfreithlon neu feddyginiaeth wedi ei rhagnodi, dylech ddweud wrth eich Meddyg Teulu neu Fydwraig fel y gallan nhw eich helpu chi i gael y cymorth a’r gefnogaeth gywir.
Gall cyffuriau gael effaith andwyol ar yr embryo neu ffetws ar unrhyw adeg o’r beichiogrwydd.
Yn y tymor cyntaf gall rhai cyffuriau effeithio ar ddatblygiad yr organnau y ffetws ac mewn achosion difrifol gallant achosi camesgoriad.
Yn yr ail dymor (13 i 28 wythnos) gall rhai cyffuriau effeithio ar dyfiant y babi, yn arwain at bwysau geni isel a all gael effaith barhaol unwaith y caiff ei eni ar eu haddysg, ymddygiad a sgiliau datblygiadol a allai achosi salwch plentyndod yn y dyfodol.
Yn y trydydd tymor (y tri mis olaf), gall parhau i ddefnyddio cyffuriau achosi genedigaeth gynamserol ac mewn rhai achosion o ddiddyfnu’r babi.
Nid yw babanod yn cael eu geni yn ddibynnol hyd yn oed os yw’r fam ond gallant ddioddef symptomau diddyfnu trallodus oherwydd dibyniaeth ar yr hyn y mae’r fam wedi bod yn ei gymryd yn ystod beichiogrwydd.
Fe all rhai babanod ddangos arwyddion o ddiddyfnu o fewn y 72 awr gyntaf o gael eu geni ac mewn rhai amgylchiadau gall bara am 14 niwrnod yn dibynnu ar y cyffuriau a ddefnyddiwyd yn y beichiogrwydd. Gall yr arwyddion fod yn sugno anghydlynus, chwydu a dolur rhydd ac ennill pwysau gwael ac mewn achosion prin, gall confylsiynau ddigwydd. Caiff babanod eu monitro a’u trin yn ôl y gofyn tra yn yr ysbyty a byddai’r mamau yn cael eu cefnogi gan weithwyr proffesiynol yn ystod y cyfnod hwn yn ogystal.
Efallai na fydd rhai effeithiau yn amlwg adeg y geni ond gallant ddod yn amlwg yn ddiweddarach yn eu bywyd.
Mae camddefnyddio sylweddau yn ystod beichiogrwydd yn cynyddu’r perygl o:
Mae cymorth a chefnogaeth gyfrinachol ar gael: