Mae eich arddegau yn gyfnod pwysig dros ben ar gyfer twf a datblygiad, ac felly mae bwyta deiet iach ac amrywiol yn holl bwysig er mwyn derbyn yr egni a’r maeth sydd angen arnoch i ganolbwyntio'n dda yn yr ysgol a chymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau.
Mae'r Canllaw Bwyta'n Dda yn dangos pa fath a faint o fwyd sydd angen ei fwyta er mwyn cael deiet cytbwys ac iach. Gwyliwch y fideo byr yma ar y Canllaw Bwyta’n Dda am awgrymiadau a chyngor defnyddiol.
Dylai deiet iach a chytbwys gynnwys:
Mae dechrau'r diwrnod gyda phryd o fwyd maethlon yn bwysig oherwydd mae'n rhoi tanwydd yn ein corff ar gyfer y dydd a'n rhoi fitaminau, mwynau a ffibr pwysig i ni.
Dyma ambell awgrym am frecwast cyflym a maethlon:
Mae fitaminau a mwynau wedi’u hychwanegu i nifer o rawnfwydydd brecwast. Gall grawnfwyd fod yn opsiwn cyflym, hawdd a maethlon i frecwast.
Dylech geisio osgoi bwydydd fel creision, melysion, cacennau, bisgedi, neu ddiodydd pefriog llawn siwgr. Does fawr o faeth fydd yn helpu ein cyrff i gadw'n iach ac yn heini yn y rhain, a gallant hefyd gael effaith negyddol ar iechyd y geg.
Ffrwythau a llysiau ffres yw'r dewis gorau bob tro - maent yn cynnwys fitaminau a mwynau, yn ffynhonnell dda o ffibr ac yn rhan o’n '5 y dydd'. Hefyd, maen nhw'n hawdd i'w bwyta lle bynnag y byddwch chi!
Dyma ambell awgrym ar gyfer byrbrydau iachach:
Er mwyn helpu i gynnal pwysau iach:
Mae bwyta'n dda yn golygu cael agwedd iach at y ffordd rydych chi'n meddwl am fwyd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gael delwedd bositif o’r corff.
I gael fersiwn mwy manwl o'r wybodaeth hon, gan gynnwys cyngor ar haearn, adeiladu esgyrn a mwy, cliciwch ar hwn: