Mae bwyta'n dda yn ystod pum mlynedd gyntaf bywyd yn hanfodol o ran tyfu a datblygu yn ogystal ag iechyd eich plentyn. Bydd annog arferion bwyta da yn ystod y blynyddoedd cynnar hyn yn cyfrannu at ddewisiadau bwyd da trwy gydol bywyd eich plentyn.
Erbyn i'ch plentyn bach droi'n 12 mis oed, dylai fod yn bwyta tri phryd y dydd ac yn cael byrbrydau iach rhwng prydau. Erbyn hynny, bydd eich plentyn yn barod i fwyta prydau iachach gyda gweddill y teulu, mewn dognau llai ac wedi'u torri'n dameidiau llai wrth gwrs.
Defnyddir Canllaw Bwyta'n Dda i helpu pawb i ddeall beth yw'r cydbwysedd delfrydol o ran bwydydd i sicrhau deiet iach. Nid yw holl gynnwys y canllaw yn berthnasol i blant dan 2 oed oherwydd mae ganddynt ofynion maethol penodol. Pan fyddant rhwng 2 a 5 oed, gall plant fynd ati'n raddol i fwyta'r un cydbwysedd o ran bwydydd ag oedolion.
Yn union fel gweddill y teulu, mae angen i blant ifanc fwyta amrywiaeth o fwydydd. Dyma gynghorion ynghylch y mathau gwahanol o fwyd i'w cynnig i'ch plentyn:
Mae Rhaglen Plant Iach Cymru yn amserlen gytunedig o gysylltiadau ag ymwelwyr iechyd a nyrsys ysgol ar gyfer pob plentyn ledled Cymru.
Bydd yr ymwelydd iechyd yn cynnig cysylltiad i bob teulu pan fydd y plentyn yn 15 mis oed, 27 mis oed a 3 ½ blwydd oed. Bydd y cysylltiadau yn cynnwys cyfle i fesur taldra a phwysau ac yn galluogi'r ymwelydd iechyd i asesu iechyd a datblygiad plentyn.
Cynigir cymorth a chyngor ynghylch bwyta'n iach a gweithgarwch corfforol. Bydd ein tîm yn trafod arferion ar adegau prydau bwyd, meintiau dognau, mathau o fwydydd ac unrhyw bryderon ynghylch maeth a bwydo plant. Mae ein tîm hefyd yn hyrwyddo'r defnydd o atchwanegiadau fitaminau ar gyfer plant (nes byddant yn 5 oed), yn cynnwys gwybodaeth am y Cynllun Cychwyn Iach a'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd i gynnig rhagor o wybodaeth am gyfleoedd chwarae lleol.