Mae Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod (SIDS), a elwir hefyd yn "farwolaeth yn y crud," yn cyfeirio at farwolaeth sydyn ac anesboniadwy babi sy'n ymddangos yn iach.
Er y gall hyn swnio'n frawychus, mae SIDS yn beth prin mewn gwirionedd, ac mae'r risg y bydd eich babi yn ei brofi yn isel. Mae'r rhan fwyaf o achosion SIDS yn digwydd o fewn 6 mis cyntaf bywyd babi. Mae babanod cynamserol neu'r rhai â phwysau geni isel mewn risg uwch, ac mae SIDS yn tueddu i fod ychydig yn fwy cyffredin ymhlith bechgyn. Mae SIDS fel arfer yn digwydd pan fydd babi yn cysgu, er y gall ddigwydd pan mae’n effro, er bod hyn yn llai cyffredin.
Nid ydym yn gwybod union achos SIDS, ond credir ei fod yn gyfuniad o ffactorau. Mae arbenigwyr yn meddwl bod SIDS yn digwydd yn ystod cam penodol o ddatblygiad babi ac yn effeithio ar fabanod sy'n agored i rai mathau o straen amgylcheddol. Gall y gwendidau hyn fod oherwydd genedigaeth gynamserol, pwysau geni isel, neu resymau eraill. Gall straen amgylcheddol gynnwys dod i gysylltiad â mwg tybaco, mynd yn glwm yn y gwely, mân salwch, neu rwystrau anadlu. Mae cyd-gysgu (rhannu gwely, soffa, neu gadair gyda'ch babi) hefyd wedi bod yn gysylltiedig â SIDS.
Credir bod babanod sy'n marw o SIDS yn cael anhawster wrth ymateb i'r straen yma ac wrth reoleiddio cyfradd eu calon, eu hanadlu a'u tymheredd. Er bod union achos SIDS yn parhau i fod yn aneglur.
Mae yna nifer o gamau y gall rhieni eu cymryd i leihau'r risg o SIDS, megis:
Y lle gorau i'ch babi gysgu yw yn ei le cysgu clir, gwastad ei hun, fel crud neu fasged Moses, yn yr un ystafell â chi. Dyma rai pethau pwysig i'w cofio wrth baratoi lle i’ch babi gysgu:
Os bydd eich babi yn mynd yn sâl, fel arfer nid yw hynny'n destun pryder mawr. Sicrhewch eu bod yn yfed digon a ddim yn gorboethi.
Ond, os oes gennych unrhyw bryderon am iechyd eich babi, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu ffoniwch GIG 111 Cymru am gyngor. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 am ambiwlans os nad yw eich babi’n anadlu, yn troi’n las, yn cael trafferth anadlu, yn colli ymwybyddiaeth, yn methu â deffro, neu’n cael ffit am y tro cyntaf.
Mae gwasanaethau cymorth ar gael i deuluoedd os bydd babi yn marw’n sydyn ac yn annisgwyl. Mae rhai yn cael cysur o gysylltu ag eraill sydd wedi profi colledion tebyg. Mae’r Lullaby Trust yn cynnig arweiniad a chymorth i deuluoedd yn eu profedigaeth, gyda chynghorwyr hyfforddedig ar gael.