Beichiogrwydd ectopig yw pan fydd wy ffrwythlon yn mewnblannu ei hun y tu allan i'r groth. Bydd hyn fel arfer yn digwydd yn un o'r tiwbiau ffalopaidd, onglau'r groth lle mae'r tiwbiau'n ymuno â'r groth, yr ofari, craith wedi genedigaeth Gesaraidd, ceg y groth neu’r abdomen. Os bydd wy'n mynd yn sownd yn eich tiwbiau ffalopaidd, ni fydd yr wy’n datblygu i fod yn fabi, ac o ganlyniad gall eich iechyd fod mewn perygl os yw'r beichiogrwydd yn parhau. Yn anffodus, nid oes modd achub y beichiogrwydd. Yn amlach na pheidio, mae'n rhaid tynnu'r wy gan ddefnyddio meddygaeth neu lawdriniaeth.
Mae’n bosibl na fydd gennych unrhyw symptomau sy’n awgrymu beichiogrwydd ectopig a dim ond mewn sgan beichiogrwydd arferol y gellir ei ganfod. Os ydych yn profi unrhyw symptomau, maen nhw'n tueddu i ddatblygu rhwng y 4ydd a'r 12fed wythnos o feichiogrwydd.
Gall y symptomau fod yn gyfuniad o:
Cysylltwch â’ch Meddyg Teulu, neu GIG 111 Cymru os oes gennych gyfuniad o’r symptomau uchod ac rydych yn amau efallai eich bod yn feichiog. Mae’n bwysig eich bod yn cael cyngor cyn gynted â phosib, gan fod beichiogrwydd ectopig yn gallu bod yn ddifrifol.
Ffoniwch 999 am ambiwlans os ydych yn profi cyfuniad o:
Yn dilyn eich triniaeth o ganlyniad i feichiogrwydd ectopig, bydd eich meddyg yn darparu cyngor iechyd i chi, gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn â chenhedlu unwaith eto yn y dyfodol. Gellir canfod rhagor o wybodaeth ar wefan Ectopic Pregnancy Trust .
Gall gofal cyn-cenhedlu wella eich siawns o feichiogi, cael beichiogrwydd iach, a chael babi iach. Dyma rai pethau i'w hystyried os ydych yn cynllunio mynd i ddisgwyl yn y dyfodol:
Mae’n bwysig eich bod yn siarad â’ch Meddyg Teulu os ydych yn beichiogi yn y dyfodol, gan y mae’n bosibl y bydd eisiau eich cyfeirio at ein Huned Beichiogrwydd Gynnar am gymorth pellach.