Neidio i'r prif gynnwy

Uned Asesu Beichiogrwydd Cynnar

Mae’r uned yn darparu gwasanaeth apwyntiadau i asesu merched beichiog sy’n cael poen a gwaedu yn ystod beichiogrwydd cynnar.

Rhaid i’r merched sy’n cael eu cyfeirio at y clinig hwn fod mewn cyflwr sefydlog. Rhaid cyfeirio’r rhai hynny sydd angen sylw meddygol brys at un ai’r Adran Achosion Brys neu feddyg y ward.

Amseroedd Agor

Dydd Llun i ddydd Gwener 8:30am – 4:30pm (ac eithrio Gwyliau Banc).

Derbynnir cyfeiriadau yn uniongyrchol at yr uned gan Feddygon Teulu, Bydwragedd a’r Adran Achosion Brys.

Os cewch eich cyfeirio i’r uned, cynigir apwyntiad yn y clinig nesaf sydd ar gael yn seiliedig ar y meini prawf canlynol:

 Merched yn ystod wythnos 6-13 o’u beichiogrwydd gyda chanlyniad prawf beichiogrwydd positif a:

  • Poen yn y bol
  • Gwaedu o’r fagina
  • Beichiogrwydd ectopig blaenorol
  • Llawdriniaeth flaenorol ar y tiwbiau
  • Tri erthyliad naturiol blaenorol neu fwy  
  • Bod ganddynt gyfarpar atal cenhedlu mewngroth (coil)

Beth sy’n digwydd yn yr apwyntiad?

Byddwch yn gweld Nyrs/Meddyg fydd yn trefnu’r asesiadau canlynol fel sy’n briodol:

  • Cofnodi eich hanes meddygol
  • Prawf beichiogrwydd
  • Profi eich pwysedd gwaed, tymheredd a phwls
  • Sgan uwchsain
  • Profion gwaed

Prif amcan y gwasanaeth yw asesu a thrin cleifion allanol er mwyn lleihau'r angen am dderbyniadau dianghenraid i'r ysbyty.

Pan fyddwch wedi cael yr holl archwiliadau priodol, bydd y canlyniadau’n cael eu hadolygu ac unrhyw opsiynau triniaeth yn cael eu trafod â chi.

Yn dilyn eich asesiad, os tybir bod angen i chi gael eich derbyn i’r ysbyty, bydd hyn i’r Ward Gynaecoleg gyferbyn â’r uned.