Os ydych yn feichiog neu’n cynllunio beichiogi, y dull mwyaf diogel yw osgoi yfed unrhyw fath o alcohol. Gall yfed yn ystod beichiogrwydd arwain at niwed hirdymor i’ch babi, a’r mwyaf yr ydych yn ei yfed, y mwyaf yw’r risg.
Os hoffech chi gymorth pellach gyda’ch yfed yna gofynnwch i’ch bydwraig neu Feddyg Teulu eich cyfeirio chi at y gwasanaeth Bydwraig Arbenigol.
Os ydych yn feichiog neu’n meddwl y gallech fod yn feichiog, yna fe’ch cynghorir i osgoi yfed alcohol.
Mae’r risgiau o gamesgoriad yn y tri mis cyntaf o feichiogrwydd yn golygu ei fod yn hynod o bwysig bod merched yn osgoi yfed alcohol yn ystod y cyfnod hwn. Nodwch fod yfed alcohol yn cario risgiau drwy gydol beichiogrwydd, nid am y tri mis cyntaf yn unig.
Os ydych chi eisoes yn feichiog a’ch bod chi wedi yfed symiau bach o alcohol yn ystod y cyfnodau cynnar o feichiogrwydd, mae’r risg i’ch babi yn isel. Gallwch siarad â’ch Meddyg Teulu neu fydwraig os ydych yn bryderus am hyn.
Pan fyddwch yn yfed alcohol, mae’n pasio o lif eich gwaed drwy’r brych ac yn uniongyrchol i mewn i waed eich babi. Bydd yr effeithiau a geir ar y babi yn dibynnu ar faint y mae’r fam yn ei yfed yn ogystal â metabolaeth y fam.
Iau’r babi yw un o’r organau olaf i ddatblygu ac nid yw’n aeddfedu tan y cyfnodau olaf o feichiogrwydd. Ni all eich babi brosesu alcohol cystal ag y gallwch chi, a gall gormod o gysylltiad ag alcohol gael effaith ddifrifol ar eu datblygiad. Mae yfed alcohol, yn enwedig yn ystod y tri mis cyntaf o feichiogrwydd, yn cynyddu’r risg o gamesgoriad, genedigaeth gynamserol a phwysau geni isel. Gall yfed ar ôl y tri mis cyntaf effeithio ar eich babi ar ôl iddynt gael eu geni.
Gall yfed alcohol yn ystod beichiogrwydd arwain at gyflwr difrifol a elwir yn Syndrom alcohol y ffetws (FAS). Gall camesgoriad, marw-enedigaeth, genedigaeth gynamserol, pwysau geni isel ac Anhwylder Sbectrwm Alcohol y Ffetws (FASD) hefyd fod yn gysylltiedig ag yfed alcohol yn ystod beichiogrwydd.
Mae gan blant sydd â Syndrom alcohol y ffetws (FAS) y canlynol:
Gall yfed mewn symiau bach, neu hyd yn oed yfed yn drwm ar achlysuron sengl, fod yn gysylltiedig â ffurfiau llai o FAS. Mae’r risg yn debygol o fod yn fwy, y mwyaf yr ydych yn ei yfed.
Yr opsiwn mwyaf diogel yw osgoi alcohol yn ystod bwydo ar y fron gan fod alcohol yn croesi i mewn i laeth y fron. Gall yfed rheolaidd yn ystod bwydo ar y fron effeithio ar ddatblygiad eich babi.
Siaradwch â’ch gweithiwr iechyd proffesiynol os ydych yn ystyried yfed alcohol wrth fwydo ar y fron. Mae 1 uned o alcohol yn cymryd 2 awr i adael llaeth y fron ac felly byddai cynllunio ar gyfer unrhyw achlysur o fudd.
Os ydych yn cael trafferth torri i lawr ar yr hyn yr ydych yn ei yfed, siaradwch â Bydwraig, Meddyg Teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall. Mae cymorth a chefnogaeth gyfrinachol ar gael: