Neidio i'r prif gynnwy

KindEating

Ar gyfer oedolion â BMI dros 30kg/m2

  • Cwblhewch y Ffurflen Hunangyfeirio Rheoli Pwysau (smartsurvey.co.uk) i wneud cais am fynediad am ddim at rhaglen grŵp 12 wythnos a ddarperir gan Ddeietegydd Cofrestredig gyda chefnogaeth reolaidd am flwyddyn.
  • Gallwch ymuno â'n rhaglenni mewn lleoliadau ar draws Gogledd Cymru neu gallwch ymuno â grwpiau rhithwir trwy gyswllt fideo o'ch cartref eich hun.
  • Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i roi'r arfau a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch i golli pwysau yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy, gan ganolbwyntio ar hybu iechyd a lles. Byddwch yn derbyn llawlyfr ac adnoddau defnyddiol a byddwn yn eich cefnogi i weithio tuag at yr hyn sy'n bwysig i chi.

Pynciau sy'n cael eu cynnwys 

  • Wythnos 1: Y ffordd orau i golli pwysau
  • Wythnos 2: Bwyta'n iach
  • Wythnos 3: Meintiau dognau
  • Wythnos 4: Newid eich arferion bwyta
  • Wythnos 5: Gosod nodau personol
  • Wythnos 6: Rheoli eich bwyta
  • Wythnos 7: Gweithgarwch corfforol
  • Wythnos 8: Cynllunio prydau bwyd
  • Wythnos 9: Siopa a labeli bwyd
  • Wythnos 10: Bwyta ac yfed pan fyddwch chi allan
  • Wythnos 12: Mae'r meddwl yn bwysig
  • Wythnos 12: Parhau i ganolbwyntio

Rydym yn cynnig y rhaglen KindEating wyneb yn wyneb mewn nifer o leoliadau ar draws Gogledd Cymru neu grwp rhithwir drwy gyswllt fideo. Gweler y tabl isod am fwy o fanylion.

I ymuno â'r grŵp dros fideo bydd angen i chi gael cyfeiriad e-bost, cyswllt da â'r rhyngrwyd, a dyfais fel gliniadur, ffôn symudol neu dabled sydd â microffon a chamera arno a lle preifat yn eich cartref neu’ch gweithle lle na fydd neb yn tarfu arnoch. Yn ystod y sesiynau byddwch yn gallu gweld, clywed a siarad ag unigolion eraill sy’n cymryd rhan yn y grŵp a'r hwylusydd.

DRWY APWYNTIAD YN UNIG

Dros Gyswllt Fideo 

  • Diwrnod: Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Mercher, Dydd Iau: 
  • Amser: Bore, Prynhawn, a gyda'r nos

Canolfan Hamdden Arfon, Caernarfon  

  • Diwrnod: Dydd Gwener
  • Amser: 11:30am-12:30pm 

Canolfan Hamdden Colwyn, Bae Colwyn

  • Diwrnod: Dydd Llun
  • Amser Prynhawn 

Canolfan Hamdden WaterWorld, Wrecsam 

  • Diwrnod: Dydd Llun
  • Amser: 2:15pm-3:15pm

Crown Buildings, Wrecsam 

  • Diwrnod: Dydd Mercher
  • Amser: 1:30pm-2:30pm

Canolfan Hamdden Deeside, Deeside 

  • Diwrnod: Dydd Iau 
  • Amser: 11:10am-12:10pm

Canolfan Hamdden Plas Arthur, Llangefni

  • Diwrnod: dydd Mercher
  • Amser: 9:30am-10:30am 

Canolfan Hamdden y Rhyl, Rhyl 

  • Diwrnod: Dydd Iau
  • Amser: Prynhawn