Neidio i'r prif gynnwy

Tra byddwch chi'n aros

Yn ystod eich amser yn aros am apwyntiad neu driniaeth, efallai y byddwn yn cysylltu â chi o dro i dro er mwyn sicrhau bod dal angen i chi fod ar ein rhestr aros ac i sicrhau bod eich holl fanylion cyswllt yn gyfredol.

Mae rhai cleifion yn penderfynu cael triniaeth yn rhywle arall, neu'n symud y tu allan i'r ardal ac yn anghofio rhoi gwybod i ni am hynny. Trwy ddiweddaru ein system gyda'r wybodaeth hon, gallwn weld a thrin y cleifion y mae angen eu gweld yn gynt a lleihau amseroedd aros.

Efallai y byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn, neges destun neu lythyr. Darllenwch y neges yn ofalus a lle y gofynnir i chi ymateb, gwnewch hynny'n brydlon gan y gallai peidio ymateb arwain at dynnu eich enw oddi ar y rhestr aros, mewn rhai achosion.

Os byddwch yn rhoi gwybod i ni yr hoffech barhau ar y rhestr aros, nid oes angen i chi gysylltu â ni. Caiff ein systemau ein diweddaru gyda'ch penderfyniad a chewch eich blaenoriaethu yn nhrefn brys clinigol a hyd arhosiad, a chewch gynnig apwyntiad neu ddyddiad ar gyfer eich triniaeth cyn gynted ag y bydd un ar gael.

I'ch cefnogi tra byddwch yn aros, efallai y byddech yn cael budd o un o'n cyrsiau'n ymwneud â hunanreoli symptomau sy'n para tri mis neu fwy. Mae gennym gyrsiau sy'n ymwneud â rheoli poen cronig, symptomau hirdymor, a byw'n dda wrth weithio; yn ogystal â chyrsiau sy'n ymwneud â chyflyrau hirdymor penodol, fel Diabetes, COPD, Ffibromyalgia a Methiant y Galon i enwi ond ychydig.  Os hoffech gael rhagor o fanylion, edrychwch ar Cyrsiau Iechyd a Lles - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru), neu ffoniwch ein tîm ar 03000 852280.

Asesiad iechyd personol ar-lein yw Ychwanegu at Fywyd sy'n rhoi llawer o wybodaeth werthfawr, wedi'i theilwra i chi a ddatblygwyd i'ch helpu i gael y gorau o'ch triniaeth GIG.  

Bydd cymryd camau nawr i wella eich iechyd corfforol a lles meddyliol nid yn unig yn lleihau’r risg o unrhyw gymhlethdodau yn ystod eich triniaeth, ond bydd hefyd o fudd i’ch adferiad a’ch iechyd hirdymor, gan wneud i chi deimlo’n well yn gynt. 

I gwblhau eich asesiad iechyd heddiw, ewch i: ychwaneguatfywyd.gig.cymru

Cytuno ar ddyddiad addas ar gyfer eich apwyntiad neu'ch triniaeth

Ffocws y broses trefnu yw cynnig dau ddyddiad y cytunir arnynt ar y ddwy ochr yn cynnwys rhybudd ymlaen llaw o dair wythnos ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol a chleifion mewnol. Os ydych ar restr aros am apwyntiad claf allanol, byddwn naill ai'n cysylltu â chi i gytuno ar ddyddiad neu byddwch yn derbyn llythyr yn cynnig dyddiad i chi fynychu. Os nad yw'r dyddiad a gynigir yn gyfleus i chi, bydd camau clir yn ymwneud â sut i gysylltu â'r bwrdd iechyd i'w newid. Os na fyddwch yn ymateb i'r llythyr, byddwn yn cymryd yn ganiataol bod hyn yn gyfleus ar y ddwy ochr, ac os na fyddwch yn dod i'ch apwyntiad, gallai hyn arwain at dynnu eich enw oddi ar y rhestr aros. Os ydych ar un o'n rhestrau aros am driniaeth, byddwn yn eich ffonio i gytuno ar ddyddiad ac amser sy'n gyfleus i chi.

Os byddwch yn gwrthod dau gynnig rhesymol gyda rhybudd ymlaen llaw o dair wythnos ar gyfer dyddiad yr apwyntiad neu'r driniaeth, bydd hyn yn golygu y bydd eich amser aros naill ai'n dechrau o'r newydd, neu y bydd eich enw'n cael ei dynnu oddi ar y rhestr aros.

Os byddwch yn penderfynu oedi eich triniaeth am resymau personol neu gymdeithasol ac yn datgan nad ydych ar gael, bydd eich amser aros yn cael ei addasu i adlewyrchu hyn:

  • pan fo'r cyfnod o ddiffyg argaeledd yn llai na phythefnos, ni ellir gwneud unrhyw addasiadau;
  • pan fo'r cyfnod o ddiffyg argaeledd yn para rhwng 2 a 8 wythnos, gellir gwneud unrhyw addasiadau am y cyfnod llawn na fyddwch ar gael.

Pan fydd y Bwrdd Iechyd wedi derbyn eich cyfeiriad, mae gofyn i chi sicrhau eich bod ar gael ar gyfer apwyntiadau, diagnosis a thriniaeth. Os byddwch yn rhoi gwybod i ni nad ydych ar gael am gyfnod sy'n hirach nag wyth wythnos, byddwch yn dychwelyd at ofal yr unigolyn a'ch cyfeiriodd. Er mwyn sicrhau bod tynnu eich enw oddi ar y rhestr aros er eich lles pennaf ar lefel glinigol, caiff hyn ei drafod a'i gytuno gan eich meddyg ymgynghorol. Os bydd eich amser aros yn dechrau o'r newydd ac y cytunir y dylech barhau ar y rhestr aros, byddwch yn cael gwybod am hyn ar lafar neu'n ysgrifenedig.

Gwasanaeth atgoffa trwy neges destun 

Gall BIPBC gysylltu â chi gyda nodyn atgoffa ar gyfer eich apwyntiad cyntaf neu apwyntiad dilynol fel claf allanol saith niwrnod a 48 awr cyn i chi fynychu'r adran.

Gall y dulliau cyfathrebu fod trwy SMS (negeseuon testun), Neges Llais Rhyngweithiol (llinell dir), neu Alwadau gan Asiantau (galwadau atgoffa un i un). I optio i mewn i nodiadau atgoffa trwy neges destun yma.

Os byddwch yn derbyn nodyn atgoffa saith niwrnod, byddwch yn cael yr opsiwn i ganslo eich apwyntiad neu i'w aildrefnu.  Yn dilyn nodyn atgoffa 48 awr, byddwch yn cael canslo'n unig ac ni fyddwch yn cael yr opsiwn i aildrefnu trwy'r gwasanaeth hwn oherwydd y byr rybudd. Os na fyddwch yn ymateb i aildrefnu neu ganslo eich apwyntiad yn y cyfnod hwn, bydd disgwyl i chi fynd i'ch apwyntiad. Os na fyddwch yn mynychu, efallai y bydd eich enw'n cael ei dynnu ar y rhestr aros a chewch eich rhyddhau'n ôl at yr unigolyn a'ch cyfeiriodd.

Nid yw'r holl glinigau arbenigedd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth atgoffa.  Rydym yn ymrwymedig i ddarparu mynediad teg i'r gwasanaeth hwn ar gyfer ein cleifion ac rydym yn ymgysylltu â gwasanaethau er mwyn gwella lefelau mabwysiadu hyn lle bo'n briodol.  

Helpwch ni i osgoi gwastraffu amser gwerthfawr y GIG trwy:

  • Rhoi gwybod i ni os byddwch yn newid unrhyw rai o'ch manylion, fel enw, cyfeiriad a rhifau ffôn, neu os bydd unrhyw newid i'ch cyflwr. Efallai y byddwch yn penderfynu cael eich triniaeth yn rhywle arall, os felly yw hi, gofynnwn i chi gysylltu â ni i roi gwybod am hynny.
  • Bydd canslo eich apwyntiad neu driniaeth os na allwch fynychu, trwy ffonio’r rhif ffôn ar ben eich llythyr cadarnhau apwyntiad yn ein galluogi i gynnig yr apwyntiad i glaf arall sydd ar y rhestr aros. 
  • Os na fyddwch yn dod i'ch apwyntiadau heb roi unrhyw rybudd i'r ysbyty, efallai y caiff eich enw ei dynnu oddi ar y rhestr aros a chewch eich cyfeirio'n ôl at yr unigolyn a'ch cyfeiriodd.