Pan fyddwch yn ffonio’r Ganolfan Gyswllt Brechu rhag COVID-19 (neu pan fyddwn yn eich ffonio), byddwn yn gofyn i chi roi rhywfaint o wybodaeth sylfaenol i ni, fel eich enw, dyddiad geni a chyfeiriad, rhif ffôn ac enw eich meddyg teulu i helpu ni i ddod o hyd i'ch cofnod claf ar ein system.
Mae angen y wybodaeth hon arnom i roi’r wybodaeth gywir i chi a hefyd er mwyn:
Mae'r holl alwadau i ac o'r Ganolfan Gyswllt Brechu rhag COVID-19 yn cael eu recordio. Cedwir y cofnodion yn ddiogel ar system Bwrdd Iechyd.
Mae gan staff y Bwrdd Iechyd ddyletswydd gyfreithiol a phroffesiynol i gadw gwybodaeth am gleifion yn gyfrinachol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi'i dogfennu a'i chofnodi ar ein systemau cyfrifiadurol diogel. Ni fydd gwybodaeth bersonol yn cael ei datgelu i drydydd parti heb eich caniatâd a byddai hyn at ddiben penodol ac o dan amgylchiadau eithriadol, er enghraifft sefyllfa bywyd a marwolaeth neu lle mae’r gyfraith yn mynnu bod gwybodaeth yn cael ei datgelu.
Eich dewis chi yn llwyr yw faint o'ch gwybodaeth bersonol yr hoffech ei rhannu â ni. Gallwch gysylltu â ni'n ddienw, fodd bynnag, ystyriwch y bydd angen rhywfaint o wybodaeth o leiaf i'n helpu i roi cyngor a chymorth i chi gyda'ch ymholiad.
Deddf Diogelu Data (2018, Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR) 2016, Deddf Hawliau Dynol (1998) a Deddf Rhyddid Gwybodaeth (2000).
Er mwyn sicrhau bod ein staff yn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i boblogaeth Gogledd Cymru, mae treulio amser yn gwrando ar alwadau yn rhan hanfodol o hyfforddiant a datblygiad staff. Cysylltwch â ni os oes gennych bryderon am hyn.
Gallwch ein hatal rhag cysylltu â chi ynglŷn â chael eich brechu (naill ai’n barhaol neu dros dro) drwy ein hysbysu drwy e-bost - BCU.SROCovid19VaccinationProgramme@wales.nhs.uk neu drwy ffonio Canolfan Gyswllt Brechu rhag COVID-19 ar 03000 840004.
Mae gennych hawl mynediad i ofyn am y wybodaeth sydd gennym amdanoch. Mae rhagor o wybodaeth am gael mynediad at eich cofnodion personol a gwybodaeth am gleifion ar gael yn y rhestr isod:
Mae gennych hawl i ofyn am y wybodaeth sydd gennym amdanoch. Mae rhagor o wybodaeth am gael mynediad at eich cofnodion personol a gwybodaeth am gleifion ar gael yn y rhestr isod: