Mae oedolion a phobl hŷn yn gymwys i gael y brechiadau arferol canlynol:
Os ydych chi'n 65 oed neu'n hŷn neu os oes gennych chi gyflwr iechyd sy'n bodoli eisoes, rydych chi'n gymwys i gael brechlyn ffliw tymhorol y GIG am ddim. Mae’r brechlyn hwn yn helpu i'ch amddiffyn chi rhag y ffliw a'r heintiau cyffredin sy’n gysylltiedig â’r ffliw. Mae hefyd yn amddiffyn aelodau eraill o’r teulu a’r gymuned ehangach sy’n agored i niwed.
Os ydych chi'n gymwys, byddwch fel arfer, yn cael eich galw i apwyntiad yn eich meddygfa yn yr hydref. Fel arall, gallwch hawlio eich brechlyn ffliw tymhorol am ddim yn y rhan fwyaf o fferyllfeydd cymunedol.
Gall pobl 65 mlwydd oed neu hŷn, neu'r rhai sydd â chyflwr iechyd gwaelodol, hefyd fod yn gymwys am frechiadau atgyfnerthu rhag COVID-19.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn derbyn gwahoddiadau i gael y brechlynnau hyn er mwyn gwella eich amddiffyniad rhag salwch difrifol.
Mae’r brechlyn niwmococol yn cael ei gynnig fel mater o drefn i bobl 65 oed a hŷn i helpu i’w hamddiffyn rhag haint niwmococol, a all achosi salwch difrifol fel sepsis a llid yr ymennydd.
Bydd y brechlyn fel arfer yn cael ei gynnig yn eich meddygfa.
Gall pobl hŷn fod yn fwy tueddol o gael yr eryr, ailysgogiad poenus a choslyd o'r feirws sy'n achosi brech yr ieir. Gall yr eryr fod yn angheuol mewn nifer fach o achosion.
Mae brechlyn sy’n amddiffyn rhag yr eryr ar gael i’r rhai sy’n wynebu’r risg mwyaf, ac mae fel arfer yn cael ei roi yn eich meddygfa.
Mae’r brechlyn yn cael ei gynnig i bawb ar ôl iddynt droi’n 70 oed a gellir ei roi i bobl hyd at 79 oed. Bydd pobl sydd wedi cael eu geni ar 1 Medi 1958 neu wedi hynny yn cael cynnig y brechlyn pan fyddant yn 65 oed, neu yn fuan ar ôl iddynt droi'n 65 oed.
Bydd pobl 50 oed neu hŷn sydd â system imiwnedd wan o ganlyniad i gyflwr iechyd neu driniaeth feddygol hefyd yn cael cynnig y brechlyn.
Bydd eich meddygfa yn cynnig y brechlyn i chi pan fydd hi’n bryd i chi ei dderbyn. Efallai y byddwch yn cael cynnig y brechlyn pan fyddwch yn ymweld â’r feddygfa am apwyntiad arall.
Mae RSV yn feirws sy'n effeithio ar y frest a'r ysgyfaint, a gall achosi salwch difrifol iawn i bobl hŷn.
O fis Medi 2024, bydd pobl hŷn yn cael cynnig brechlyn rhag RSV ar ôl eu pen-blwydd yn 75 mlwydd oed. Bydd y brechlyn untro hwn yn helpu i’ch diogelu rhag y risg o salwch difrifol sy'n cael ei achosi gan RSV.
Mae'r brechlyn HPV yn gallu helpu atal amrywiaeth o ganserau a dafadennau gwenerol.
Mae'n bosibl i ddynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy'n cael rhyw gyda dynion gael brechlyn HPV trwy'r gwasanaethau iechyd rhywioll nes iddynt fod yn 45 mlwydd oed.
Mae llawer o weithleoedd yn gofyn i weithwyr wneud yn siŵr eu bod wedi cael y brechiadau arferol i leihau'r risg o salwch neu afiechyd.
Mae rhai cyflogwyr yn gofyn i weithwyr gael brechiadau ychwanegol er mwyn cynyddu eu hamddiffyniad. Efallai y bydd angen rhagor o frechiadau ar gyfer rhai swyddi risg uwch.
Mae cyngor ar y brechiadau a argymhellir ar gyfer eich swydd ar gael gan eich cyflogwr neu’ch adran iechyd galwedigaethol.
Mae’n bosibl y bydd angen brechiadau ychwanegol, neu ddosau ychwanegol o rai brechiadau ar rai unigolion sydd â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes neu sy’n agored i risg uwch o glefyd, i’w hamddiffyn rhag mynd yn sâl.
Mae arweiniad a chymorth fesul achos ar gael i unigolion â chyflyrau sy'n bodoli eisoes neu ffactorau risg ychwanegol gan eich meddygfa neu dîm arbenigol.