Neidio i'r prif gynnwy

Ffeithiau Brechu! Cael eich brechu yn eich arddegau

Bydd cael eich brechu yn eich arddegau yn eich helpu i wella eich amddiffyniad rhag clefydau heintus. Maent yn eich amddiffyn rhag cyflyrau a all eich gwneud yn ddifrifol wael fel tetanws, difftheria, polio a llid yr ymennydd.

 

Brechlynnau ar gyfer Blwyddyn 9

Mae'r rhan fwyaf o bobl eisoes wedi cael brechiadau ar gyfer tetanws, difftheria a pholio, pan oeddent yn fabi fel arfer. Roedd y rhain yn eich amddiffyn pan oeddech chi'n fach, ond bydd angen ychwanegu atynt nawr. Ym Mlwyddyn 9, byddwch yn cael cynnig brechlyn 3 mewn 1 i bobl ifanc yn eu harddegau er mwyn gwella’r amddiffyniad gan eich bod chi’n hŷn.

Byddwch hefyd yn cael cynnig y brechlyn MenACWY, sy'n amddiffyn rhag llid yr ymennydd a chyflyrau cysylltiedig.

 

Brechlynnau ar gyfer Blwyddyn 8

Os ydych ym Mlwyddyn 8, byddwch yn cael cynnig y brechlyn HPV mewn clinig yn yr ysgol. Mae mwy o wybodaeth am y brechlyn HPV ar gael yma.

 

Brechiadau eraill

Dylai pob oedolyn ifanc hefyd sicrhau y cânt eu hamddiffyn yn llawn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela. Mae angen dau ddos o’r brechlyn MMR i sicrhau y cewch chi’r amddiffyniad gorau rhag y clefydau hyn. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael y ddau frechiad cyn dechrau’r ysgol, ond efallai y gwnaiff eich nyrs ysgol neu aelod o’n tîm imiwneiddio eich gwahodd i gael y brechlyn hwn os yw ein cofnodion yn dynodi nad ydych chi wedi cael y ddau ddos.

 

 

Eich cwestiynau

Mae brechiadau'n helpu i'ch amddiffyn chi a'r rhai o'ch cwmpas. Mae'n bwysig eich bod yn cael eich brechlyn ar yr amser iawn. Peidiwch â rhoi eich hun mewn perygl trwy oedi.

 

Mwy o wybodaeth

Darllenwch fwy am bigiadau atgyfnerthu i bobl ifanc ar GIG 111 Cymru.