Mae angen llawer o gefnogaeth ar fabanod a phlant bach gan eu rhieni, eu teulu ac oedolion eraill y gallant ymddiried ynddynt i greu amgylchedd lle gall eu llesiant ffynnu.
Gallwch wneud hyn trwy roi anogaeth a gofal, gan ddangos cariad ac anwyldeb iddynt, ymateb i giwiau babi a thrwy helpu eich plentyn i reoli ei emosiynau.
Wrth iddynt dyfu, mae chwarae yn rhoi cyfle i blant ifanc ddatblygu sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol, datblygu sgiliau echddygol a bod yn actif. Mae hefyd yn caniatáu iddynt ddatblygu dealltwriaeth o reolau ac ymddygiad, yn ogystal â'r cyfle i gael hwyl gyda ffrindiau.
Er y gall y gweithredoedd hyn ddod yn naturiol i chi wrth dreulio amser gyda’ch plentyn, mae’n bwysig cydnabod yr effaith sylweddol y maent yn ei chael ar les meddyliol eich plentyn.
Cliciwch isod i ddarganfod mwy. Cofiwch fod un gweithgaredd, fel chwarae gyda’ch plentyn, yn aml yn golygu eich bod wedi cyflawni llawer o’r pum ffordd at les trwy un gweithgaredd. Mae enghreifftiau o weithgareddau yn cynnwys:
Tra byddwch allan yn crwydro Byddwch yn Sylwgar; edrychwch ar y natur o'ch cwmpas a dywedwch sut mae'n gwneud i chi deimlo neu beth allwch chi ei weld neu ei glywed. Ydy gweld blodau'r gwanwyn yn eich gwneud chi'n hapus? Ydi clywed crensian dail yr hydref dan draed yn teimlo'n foddhaol? Cysylltwch â'ch plentyn; siaradwch â'ch plentyn a rhannwch y profiad gyda'ch plentyn. Ydyn nhw'n mwynhau'r hwyl o Fod yn Actif trwy neidio mewn pyllau dŵr ar daith lawog - gadewch iddyn nhw Gysylltu â chi a rhannu eu llawenydd.
Pan fyddwch yn y parc gadewch i'ch plentyn Ddal Ati i Ddysgu ac archwilio offer efallai nad yw wedi'i ddefnyddio o'r blaen tra'n ei gadw'n ddiogel.
Gadewch i'ch plentyn Roi drwy rannu ei greadigaethau â phobl sy'n bwysig iddo. Wnaethon nhw ychydig o waith celf a chrefft mewn cylch chwarae lleol? Os felly, gadewch iddyn nhw roi eu campwaith i rywun fel y gallan nhw brofi sut deimlad yw rhoi rhywbeth i rywun sy'n annwyl iddynt.
Mae rhagor o wybodaeth am sylfeini allweddol y pum ffordd at les ar gyfer plant 0-3 oed isod: