Mae ein hymennydd wedi'i gynllunio i amsugno ac addasu i wybodaeth newydd trwy gydol ein bywydau. Gall dysgu rhywbeth newydd a rhannu'r pethau rydyn ni wedi'u dysgu ag eraill roi llawenydd i ni.
Cofrestrwch ar gyfer cwrs newydd. Derbyniwch gyfrifoldeb newydd. Ewch ati i drwsio beic. Dysgwch iaith newydd. Dysgwch sut mae gwau. Dysgwch chwarae offeryn neu sut i goginio eich hoff fwyd.
Gall dysgu gynnwys unrhyw fath o bynciau, nid cyrsiau addysgol strwythuredig yn unig. Gall dysgu fod yn gymdeithasol hefyd, oherwydd efallai y byddwch yn gwneud ffrindiau newydd, yn ogystal â sgiliau newydd.
Gweler y tudalennau Sgiliau Maeth am Oes i ddysgu sut i goginio prydau iach newydd ac i gael gwybod mwy am gyrsiau coginio lleol yn eich ardal chi.