Neidio i'r prif gynnwy

Dal ati i ddysgu

Mae ein hymennydd wedi'i gynllunio i amsugno ac addasu i wybodaeth newydd trwy gydol ein bywydau. ​ Gall dysgu rhywbeth newydd a rhannu'r pethau rydyn ni wedi'u dysgu ag eraill roi llawenydd i ni. ​

Cofrestrwch ar gyfer cwrs newydd. Derbyniwch gyfrifoldeb newydd. Ewch ati i drwsio beic. ​ Dysgwch iaith newydd.  Dysgwch sut mae gwau.  Dysgwch chwarae offeryn neu sut i goginio eich hoff fwyd. ​

Gall dysgu gynnwys unrhyw fath o bynciau, nid cyrsiau addysgol strwythuredig yn unig. ​ Gall dysgu fod yn gymdeithasol hefyd, oherwydd efallai y byddwch yn gwneud ffrindiau newydd, yn ogystal â sgiliau newydd. ​ 

Gweler y tudalennau Sgiliau Maeth am Oes i ddysgu sut i goginio prydau iach newydd ac i gael gwybod mwy am gyrsiau coginio lleol yn eich ardal chi. ​