Mae cadw'n heini, beth bynnag fo'ch oedran neu'ch gallu, yn dod â manteision gwirioneddol i'ch iechyd corfforol a'ch lles meddyliol. Gall gweithgareddau fel cerdded hefyd annog rhyngweithio cymdeithasol a hybu iechyd meddwl da.
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod gweithgarwch corfforol yn newid cemeg yr ymennydd i ryddhau ‘hormonau hapus’ a all yn ei dro wneud i chi deimlo’n fwy positif. Darganfyddwch weithgaredd corfforol sy'n addas i'ch lefel symudedd a ffitrwydd gan fod hyn yn ei gwneud yn fwy tebygol y byddwch yn parhau i wneud y gweithgaredd corfforol yn rheolaidd a chael hwyl wrth wneud hynny hefyd.
Mae gan Actif Gogledd Cymru a Dewis Cymru wybodaeth ddefnyddiol a chyfleoedd i helpu pobl i ddod yn fwy actif. Mae'r rhain ar gyfer pob grŵp oedran, gan gynnwys chwaraeon ar gyfer pobl anabl.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhannu manteision Bod yn Actif sy'n cynnwys offer, cyngor a syniadau i'ch helpu chi a'ch teulu i symud.