Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Maelor Wrecsam

Cyfeiriad: Ysbyty Maelor Wrecsam, Ffordd Croesnewydd, Wrecsam, LL13 7TD 
Ymholiadau ffôn cyffredinol:  01978 291 100

Rydym yn bwriadu adeiladu canopi y tu allan i brif fynedfa Adran Achosion Brys Ysbyty Maelor Wrecsam a disgwylir i’r gwaith ddechrau ddydd Llun, 1 Mawrth, 2021.

Bydd y gwaith yn cymryd oddeutu saith niwrnod i'w gwblhau ac ar gyfer y mwyafrif o'r amser hwn, bydd y fynedfa yn aros ar agor i gleifion. Fodd bynnag, bydd angen cau'r brif fynedfa am ychydig o ddyddiau pan fydd y to yn cael ei osod. Bydd cleifion yn cael eu cyfeirio i ddefnyddio mynedfa arall. Bydd arwyddion clir ar y dyddiau lle bydd y fynedfa ar gau. 

Diolch yn fawr ymlaen llaw am eich amynedd a'ch cefnogaeth.

 

 

Rhannu: