Cyfeiriad: Ffordd Caernarfon, Pwllheli, LL53 6TT
Rhif Ffôn: 01758 701 122
Mae hwn yn safle di-fwg. Peidiwch ag ysmygu yn y drysau, yn yr adeiladau nac ar y tir os gwelwch yn dda.
Cyfleusterau
Mae cyfleusterau Ysbyty Bryn Beryl yn cynnwys:
Amseroedd agor yr Adran Pelydr-X:
Dydd Mercher, 9.15am – 1.45pm
Dydd Iau, 9.15am – 1.45pm
Uned Mân Anafiadau (MIU)
8.00am - 6.00pm, 7 diwrnod yr wythnos
Rhif Ffôn: 01758 701 122
Gall Unedau Mân Anafiadau (MIU) helpu gydag anafiadau llai difrifol fel:
Nid oes angen apwyntiad, ac fel arfer, gallant gynnig amseroedd aros byrrach o lawer na'n prif adrannau achosion brys sy'n gorfod blaenoriaethu'r cleifion sydd wedi'u hanafu'n fwy difrifol.
Mae Unedau Mân Anafiadau yn ein hysbytai cymuned ategol ar draws Gogledd Cymru, yng Nghaergybi, Pwllheli, Dolgellau, Tremadog, Tywyn, Llandudno, Dinbych, Treffynnon a'r Wyddgrug.
Llwythwch yr ap 'Live Wait Times' i lawr
Gallwch weld yr amseroedd aros byw a chael gwybodaeth am eich Uned Mân Anafiadau agosaf yng Ngogledd Cymru drwy lwytho’r ap 'Live Wait Times' i lawr am ddim ar eich ffôn clyfar neu’ch dyfais tabled. Mae’r ap ar gael ar gyfer dyfeisiau Android ac Apple.
Eich gwasanaethau iechyd lleol Mae cyngor a gwybodaeth am eich gwasanaethau iechyd lleol a lle i fynd os nad ydych chi’n siŵr ar gael yma. |
GIG 111 Cymru Gwefan: https://111.wales.nhs.uk/ Rhif Ffôn: 0845 46 47 Mae’r gwasanaeth yma’n cynnig gwybodaeth a chyngor cyfrinachol am iechyd, 24 awr y dydd |
Mae gwybodaeth, cyngor a llinellau cymorth hefyd ar gael yma ar gyfer iechyd meddwl, alcohol, dementia a mwy. |