Yma fe welwch chi:
Mae'r Bwrdd Iechyd yn gweithio gyda nifer o sefydliadau gan gynnwys y trydydd sector, awdurdodau lleol, grwpiau gwirfoddol a phartneriaid allweddol eraill i ddarparu ac i wella ein gwasanaethau. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Tîm Ymgysylltu: bcugetinvolved@wales.nhs.uk
Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn cwrdd â nifer o gyflenwyr ar ran y Bwrdd Iechyd i drafod materion sy'n ymwneud â rheoli contractau a datblygiadau yn y farchnad. Bydd cofnod o'r cyfarfodydd hyn, ynghyd ag arwydd cyffredinol o'r math o gyfarfod yn cael eu cyhoeddi ar wefan Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
Fel Bwrdd Iechyd, dyma ein hasesiad cyntaf o anghenion fferyllol ac mae grŵp llywio wedi goruchwylio ei ddatblygiad a oedd yn cynnwys cynrychiolaeth o'r bwrdd iechyd, Fferylliaeth Gymunedol Cymru, Pwyllgor Meddygol Lleol Gogledd Cymru a Chyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru. Mae ein asesiad Anghenion Fferyllol ar gael yma.
Pan fyddwn ni'n cyfeirio at rannu gwybodaeth, rydyn ni'n golygu datgelu gwybodaeth o'n sefydliad ni i un sefydliad trydydd parti neu ragor. Mae rhannu gwybodaeth yn effeithlon am unigolion yn ganolog i ddarparu gofal a gwasanaethau'n effeithiol; mae hyn wedi cael ei danlinellu gan y methiannau cenedlaethol uchel eu proffil lle nad oedd sefydliadau wedi rhannu gwybodaeth, er enghraifft, Climbie, Soham ac ati.
Pan na fydd y rhannu'n cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol ee ystadegau nad ydynt yn enwi unrhyw unigolion, nid yw deddfwriaeth diogelu data yn berthnasol.
Mae Cymru wedi mabwysiadu Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) fel mecanwaith i rannu gwybodaeth bersonol yn rheolaidd rhwng y Bwrdd Iechyd a sefydliadau eraill fel Awdurdodau Lleol. Mae dilyn y fframwaith WASPI yn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Mae rhagor o wybodaeth am WASPI, gan gynnwys Protocolau Rhannu Gwybodaeth cymeradwy ar draws Cymru, ar gael yn www.waspi.org.
Mae'n rhaid i rannu gwybodaeth bersonol heb ganiatâd unigolyn fod wedi'i gyfiawnhau o dan ddeddfwriaeth. Yn y Gwasanaeth Iechyd, er mwyn darparu gofal uniongyrchol i gleifion, rydyn ni'n dibynnu ar y sail gyfreithiol ganlynol fel rheol:
Mae'r Bwrdd Iechyd yn paratoi ystadegau a gwybodaeth reolaethol ar sut yr ydym yn perfformio yn rheolaidd. Mae mwy o fanylion ar y dudalen hon.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy ynghylch pam mae GIG Cymru yn casglu gwybodaeth amdanoch chi a sut mae'r wybodaeth hon yn gallu cael ei defnyddio. Mae hefyd yn rhoi gwybod i chi am eich hawliau i weld eich cofnod iechyd a sut mae cael gafael arno.