Datganiad Hygyrchedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am weld cymaint o bobl â phosib yn ei defnyddio. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech chi allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau eich porwr neu ddyfais
- chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
- llywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Hygyrchedd y wefan hon
Rydym ni'n gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- Nid yw rhai tudalennau a dogfennau yn cynnwys testun â chyferbyniad lliw da.
- Nid yw rhai tudalennau yn cynnwys penawdau sydd wedi'u trefnu'n rhesymegol.
- Ni ellir defnyddio rhai tudalennau'n llawn gyda'r bysellfwrdd.
- Nid yw trefn ffocws rhai tudalennau yn rhesymegol.
- Mae’n bosibl na fydd rhannau o rai tudalennau a dewislenni'n gweithio’n dda gyda thechnolegau cynorthwyol, fel rhaglenni darllen sgrin.
- Nid oes testun amgen da ar gyfer rhai delweddau.
- Mae'n bosibl na fydd modd defnyddio rhai tudalennau a ffurflenni ar-lein yn llawn gyda'r bysellfwrdd.
- Nid oes disgrifiadau hygyrch ar rai dolenni.
- Nid oes gan rai delweddau a ddefnyddir i gyfleu gwybodaeth gyferbyniad lliw da.
- Nid oes trawsgrifiadau/disgrifiadau sain ar rai fideos.
- Mae rhai rhannau o'r wefan fel Amdanom Ni, gan gynnwys rhai tudalennau o dan Gwasanaethau yn cynnwys dogfennau PDF ac nid ydynt yn hygyrch.
Adborth a manylion cyswllt
Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym ni'n bodloni gofynion hygyrchedd, e-bostiwch y Tîm Cyfathrebu Digidol yn y lle cyntaf a byddwn yn cefnogi gyda'ch ymholiad, a/neu drosglwyddo eich cais i'r adran berthnasol.
Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS)
Os oes angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â'r wasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS).
Canolfan Arwyddo-Golwg-Sain (COS)
Mae'r Bwrdd Iechyd yn darparu dwy ffynhonnell allweddol o gymorth ychwanegol mewn cydweithrediad â'r Ganolfan Arwyddo-Golwg-Sain (COS). Gall COS roi cymorth wrth drefnu a newid apwyntiadau, gan roi cyngor ac arweiniad a'ch helpu i gyfathrebu'n effeithiol â'r Bwrdd Iechyd, meddygon teulu a gwasanaethau iechyd eraill. Gallant hefyd roi Cerdyn Cyfathrebu Iechyd Hygyrch i chi sy'n eich helpu chi i egluro eich anghenion cyfathrebu yn hawdd â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae'r rhain hefyd ar gael gan ein Hadran Awdioleg. Mae gwybodaeth gyswllt ar gyfer y gwasanaeth hwn ar gael ar wefan Canolfan Arwyddo-Golwg-Sain (COS).
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd y wefan hon
Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym ni'n bodloni gofynion hygyrchedd, e-bostiwch y Tîm Cyfathrebu Digidol.
Gweithdrefn gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi'n hapus â’r ffordd rydym ni'n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan wedi'i phrofi yn erbyn safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 (WCAG) yn llawn. Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2. Rhestrir y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd.
Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
- Nid oes disgrifiadau delwedd addas bob amser ar rai tudalennau. Mae'n bosibl na fydd gan ddefnyddwyr technolegau cynorthwyol fynediad at wybodaeth sy'n cael ei chyfleu mewn delweddau. Nid yw'n bodloni maen prawf llwyddiant 1.1.1, WCAG 2.2 (Cynnwys di-destun).
- Mae rhai delweddau yn defnyddio lliw fel yr unig fodd o gyfleu ystyr. Nid yw'n bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.1, WCAG 2.2 (Defnydd o liw).
- Mae rhai delweddau yn cynnwys testun sydd â chyferbyniad lliw gwael yn gefndir. Nid yw'n bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.3, WCAG 2.2 (Cyferbyniad (Lleiafswm)).
- Mae rhai tudalennau yn defnyddio delweddau o destun yn lle testun. Nid yw'n bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.5, WCAG 2.2 (Delweddau o destun).
- Nid yw ffocws y bysellfwrdd yn gwbl weladwy pan fydd yn tabio trwy'r cwymplenni ar hyd brig y dudalen we. Nid yw'n bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.4.7 (Ffocws gweladwy).
- Wrth chwyddo 200% neu fwy, nid yw ffocws y bysellfwrdd yn weladwy ar ôl tabio o 'Hygyrchedd' o fewn y ddewislen byrger. Nid yw'n bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.4.7 (Ffocws gweladwy).
- Wrth chwyddo 400% ac yn y golwg symudol (320 x 256 picsel), nid yw'r eicon cwcis ar waelod y dudalen we yn ail-lifo'n gywir gan ei fod yn cwmpasu cynnwys ar draws y dudalen we. Nid yw'n bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 1.4.10 (Ail-lifo).
- Wrth hofran dros gwymplenni'r bar llywio, nid oes unrhyw fecanwaith i ddiystyru'r cynnwys ychwanegol a sbardunwyd, heb symud y pwyntydd hofran neu’r ffocws bysellfwrdd. Nid yw'n bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 1.4.13 Hofran neu Ffocws.
- Pan fydd y ddewislen byrger ar agor ac wedi'i chwyddo i 200%, a'r defnyddiwr yn tabio heibio "Hygyrchedd", mae cydrannau y tu ôl i'r ddewislen yn derbyn ffocws ond yn cael eu cuddio gan y ddewislen. Mae hyn yn berthnasol i logo Instagram a Facebook a'r botwm 'Cofrestrwch yma'. Nid yw'n bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.11 Ffocws Heb ei Guddio (Lleiafswm)
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Dogfennau PDF a dogfennau eraill
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd y byddwn ni'n eu cyhoeddi yn bodloni safonau hygyrchedd.
Fideo byw
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau sain neu fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi’i eithrio rhag bodloni’r rheoliadau hygyrchedd.
Beth rydym ni'n ei wneud i wella hygyrchedd
- Rydym ni'n cydweithio â Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Llywodraethu Corfforaethol ac adrannau ac asiantaethau eraill y Bwrdd Iechyd i drwsio cynnwys nad yw’n bodloni safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We. Fersiwn 2.2.
- Ar dudalen we, rydym yn darparu gwybodaeth gyswllt ar gyfer yr adran berthnasol pe bai angen fformat arall o wybodaeth neu gymorth pellach.
- Rydym wedi cyflwyno archwiliadau rheolaidd ar sampl o'n gwefan bob chwarter, gyda'r archwiliad nesaf yn cael ei gynnal ym mis Ebrill 2025. Byddwn yn ceisio datrys yr holl wallau a materion a godwyd yn yr archwiliad arferol o fewn yr un mis o'r archwiliad.
- Rydym yn gweithio'n rheolaidd drwy wahanol rannau o'r wefan yn nhrefn blaenoriaeth a/neu adrannau hŷn i ddiweddaru, adnewyddu a thrwsio materion gyda hygyrchedd cynnwys ar y tudalennau hynny.
- Mae'r Tîm Cyfathrebu Digidol wrthi'n ysgrifennu papur sy'n amlinellu sut rydym yn bwriadu rheoli cyhoeddi dogfennau hygyrch (megis papurau'r Bwrdd, cynlluniau, adroddiadau a llenyddiaeth cleifion) a gwybodaeth. Yn dilyn cyflwyno'r papur hwn, byddwn yn sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn o fis Chwefror 2025. Byddwn yn ychwanegu rhagor o wybodaeth yma ar ôl cynnal trafodaethau ar lefel y Gweithredwyr ym mis Ionawr 2025.
- The Digital Communications Team are in the process of writing a paper which outlines how we plan to manage the publication of accessible documents (such as Board papers, plans, reports and patient literature) and information. Following the presentation of this paper, a Task and Finish Group will be established to take this work forwards from February 2025. Bydd diweddariadau yn cael eu darparu yma ar y cam nesaf, unwaith y bydd penderfyniadau wedi'u gwneud ar lefel Weithredol a gall y gwaith ddechrau.
Llunio'r datganiad hygyrchedd hwn
Lluniwyd y ddogfen hon ar 16 Ionawr 2019 Cafodd ei hadolygu ar 27 Rhagfyr 2024.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 22 Hydref 2024 yn erbyn safon AA WCAG 2.2. Cynhaliwyd y prawf gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth. Defnyddiwyd cymysgedd o wiriadau llaw syml a phrofion awtomataidd i ganfod y rhwystrau mwyaf cyffredin i ddefnyddwyr ag anghenion hygyrchedd.
Adroddiad hygyrchedd bipbc.gig.wales.