Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am weld cymaint o bobl â phosib yn ei defnyddio. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech chi allu:
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Rydym ni'n gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym ni'n bodloni gofynion hygyrchedd, e-bostiwch y Tîm Cyfathrebu Digidol yn y lle cyntaf a byddwn yn cefnogi gyda'ch ymholiad, a/neu drosglwyddo eich cais i'r adran berthnasol.
Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS)
Os oes angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â'r wasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS).
Canolfan Arwyddo-Golwg-Sain (COS)
Mae'r Bwrdd Iechyd yn darparu dwy ffynhonnell allweddol o gymorth ychwanegol mewn cydweithrediad â'r Ganolfan Arwyddo-Golwg-Sain (COS). Gall COS roi cymorth wrth drefnu a newid apwyntiadau, gan roi cyngor ac arweiniad a'ch helpu i gyfathrebu'n effeithiol â'r Bwrdd Iechyd, meddygon teulu a gwasanaethau iechyd eraill. Gallant hefyd roi Cerdyn Cyfathrebu Iechyd Hygyrch i chi sy'n eich helpu chi i egluro eich anghenion cyfathrebu yn hawdd â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae'r rhain hefyd ar gael gan ein Hadran Awdioleg. Mae gwybodaeth gyswllt ar gyfer y gwasanaeth hwn ar gael ar wefan Canolfan Arwyddo-Golwg-Sain (COS).
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd y wefan hon
Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym ni'n bodloni gofynion hygyrchedd, e-bostiwch y Tîm Cyfathrebu Digidol.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi'n hapus â’r ffordd rydym ni'n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae'r wefan wedi'i phrofi yn erbyn safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2 AA (WCAG) yn llawn. Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2. Rhestrir y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau isod.
Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd.
O dan Reoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gwefan yn hygyrch. Fodd bynnag, rydym wedi penderfynu y byddai bodloni rhai gofynion hygyrchedd yn achosi baich anghymesur i'n Bwrdd Iechyd.
Y rheswm dros yr Asesiad hwn o Faich Anghymesur yw'r nifer sylweddol o ddogfennau PDF anhygyrch ar wefan y Bwrdd Iechyd. Cafodd y dogfennau hyn eu creu dros nifer o flynyddoedd gan amrywiaeth o awduron ledled y Bwrdd Iechyd, ac nid ydynt yn bodloni gofynion canllawiau hygyrchedd WCAG 2.2 AA
Rydym yn ymwybodol o'r materion canlynol gyda'r ffurflen Arolwg Adborth
Amserlen i ddatrys y problemau: Mae Cronfa Risg Cymru yn gweithio gyda Civica ar uwchraddio'r system (GIG Cymru yn gyfan), ar y 5 Ebrill 2025.
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd y byddwn ni'n eu cyhoeddi yn bodloni safonau hygyrchedd.
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau sain neu fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi’i eithrio rhag bodloni’r rheoliadau hygyrchedd.
Rydym wedi cyflwyno archwiliadau rheolaidd ar sampl o'n gwefan bob chwarter gan defnydio axe DevTools, gyda'r archwiliad nesaf yn cael ei gynnal ym mis Ebrill 2025. Byddwn yn ceisio datrys yr holl wallau a materion a godwyd yn yr archwiliad arferol o fewn yr un mis o'r archwiliad. Gwnaethom archwilio sampl o'r wefan ddiwethaf ar 14 Ionawr 2025, byddwn yn archwilio'r wefan nesaf ar 14 Ebrill 2025.
Lluniwyd y ddogfen hon ar 16 Ionawr 2019 Cafodd ei hadolygu ar 27 Mawrth 2025, i'w adolygu ar 27 Mehefin 2025.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 22 Hydref 2024 yn erbyn safon AA WCAG 2.2. Cynhaliwyd y prawf gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth. Defnyddiwyd cymysgedd o wiriadau llaw syml a phrofion awtomataidd i ganfod y rhwystrau mwyaf cyffredin i ddefnyddwyr ag anghenion hygyrchedd.
Adroddiad hygyrchedd bipbc.gig.wales.