Neidio i'r prif gynnwy

Ysbrydolwyd Katie i ddilyn ei breuddwyd i fod yn nyrs gan ei mab a anwyd yn gynnar a'i frwydr iechyd ef

23.11.22

Mae Katie yn gynorthwyydd gofal iechyd cymunedol sydd wedi dygymod â heriau colled personol yn ogystal â brwydr iechyd ei mab a anwyd yn gynnar, a hynny er mwyn bod yn fyfyrwraig nyrsio.

Mae Katie Garner, 35, yn gweithio o Glinig Prestatyn ar Rodfa'r Brenin ac wedi bod yn gynorthwyydd gofal iechyd ers chwe blynedd. Ac ym mis Medi bydd yn falch iawn i fedru gwisgo gwisg  myfyrwraig nyrsio  ail flwyddyn.

Mae wedi bod yn siwrnai hir, wrth iddi ddygymod â genedigaeth gynnar drawmatig ei mab Kayden, sydd bellach yn 15, ac amheuon ynglyn â’i phenderfyniad  i ddilyn gyrfa mewn gofal iechyd.

Ond, yn dilyn cyfarfod ar hap mewn cyngerdd ysgol a chefnogaeth ddiwyro ei chydweithwyr nyrsio, hi fydd yr aelod cyntaf o’i theulu i fynd i’r brifysgol. Bydd yn cychwyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf o dan nawdd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Meddai: “Dylai Kayden fod wedi marw, bu farw, ond mae yma o hyd. Roeddwn i'n gobeithio y gallwn i roi rhywbeth yn ôl a gwneud y swydd fy hun pan oedd yr amser yn iawn iddo ef. Yn y diwedd fe wnes i gais i fynd ar y banc fel cynorthwyydd gofal iechyd yn Ysbyty Glan Clwyd, cefais gyfweliad a chael y swydd.

Goroeswr canser ifanc yn annog eraill i fod yn gyfarwydd a'u bronnau - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

“Nawr, chwe blynedd yn ddiweddarach, fi fydd y person cyntaf yn fy nheulu i fynd i’r brifysgol. Mae gen i tua 50 o gefndryd a fi fydd y cyntaf. Mae hyn wir yn golygu gymaint.”

Dechreuodd ei thaith, yn ddiarwybod efallai, pan anwyd ei mab 13 wythnos yn gynnar yn 2007.

Er gwaetha’r heriau, brwydrodd Kayden yn galed ac ar ôl 131 o ddiwrnodau yn uned gofal arbennig babanod Glan Clwyd fe aeth Katie a’i gŵr Martin â Kayden adref – er iddynt hefyd orfod mynd â thanciau ocsigen ar gyfer eu babi bach oherwydd bod ganddo  glefyd cronig yr ysgyfaint.

Wrth iddi nyrsio a gofalu am ei babi bach dewr dechreuodd Katie feddwl am yrfa yn gofalu am eraill.

 “Fi oedd ei ofalwr am gymaint o flynyddoedd,” meddai. “Un diwrnod meddyliais ‘Rydw i’n mynd i wneud cais i fynd ar y banc i fod yn gynorthwyydd gofal iechyd, oherwydd rydw i wrth fy modd yn gwneud hyn. Y profiad o  ofalu amdano arweiniodd at hyn.”

Doedd hi ddim yn hawdd ac roedd Katie’n cael trafferth setlo, ond wrth gael sgwrs mewn cyngerdd Diolchgarwch yn ysgol ei mab, fe newidiwyd llwybr ei gyrfa.

Eglurodd Katie, sy’n wreiddiol o Brestatyn ond sydd bellach yn byw gyda’i gŵr a dau o blant yn y Rhyl: “Roeddwn i’n siarad am y swydd â rhiant arall a chlywodd Kelly Clewett, sydd bellach yn rheolwr tîm Nyrsys Ardal yn Ninbych, fi’n siarad.

“Dywedodd hi, ‘Katie, wyt ti awydd dod i weithio yn yr ardal?’ Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd hi’n ei olygu. Doeddwn i erioed wedi clywed amdano.

Katie a Cyfarwyddwr Gweithrodol Nyrsio a Bydwryeigiaeth yn Mwrdd Ichyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Angela Wood

“Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod bod yr ardal yn bodoli oherwydd dwi erioed wedi bod angen y gwasanaeth a doedd fy nheulu erioed wedi bod ei angen chwaith. Roedd hyn i gyd yn newydd i mi.”

Sylweddolodd yn fuan ei bod angen ei NVQs i weithio yn y tîm ardal a chafodd naw mis i gael ei chymhwyster Lefel 3. Cyflawnodd y cwbl mewn chwe mis.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach mae Katie wedi gorffen ei NVQ Lefel 4, sy'n cyfateb i'w blwyddyn gyntaf mewn astudiaethau nyrsio ac felly bydd yn dechrau ei hail flwyddyn go iawn ym mis Mawrth.

Adroddwn ei stori wrth i’r genedl ddathlu Diwrnod Gweithwyr Cymorth Nyrsio. Y rhain yw sylfaen ein hysbytai a’n timau cymunedol ledled y wlad, maen nhw’n gweithio gyda phawb-  o blant i oedolion, ym mhob agwedd ar iechyd corfforol a meddyliol.

Mae’r term “gweithiwr cymorth nyrsio” yn cwmpasu cannoedd o deitlau swyddi a rolau gwahanol, gan gynnwys cynorthwywyr gofal iechyd (HCAs), gweithwyr cymorth gofal iechyd (HCSWs), ymarferwyr cynorthwyol (AP) a chymdeithion nyrsio dan hyfforddiant (TNA).

Yn ogystal â’r amrywiaeth a chymhlethdod y gwaith mae’n gwneud yn y gymuned, mae Katie wrth ei bodd â'r berthynas sy'n cael ei feithrin gyda'i chleifion.

Yn ogystal, mae'r cysur y gall hi ei roi i deuluoedd, yn enwedig y rhai sy'n derbyn gofal lliniarol, yn bwysig iddi.

Nyrs 'ymroddgar' sy'n mynd gam ymhellach er lles ei chleifion yn ennill gwobr - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

Dywedodd: “Rwy’n cyfri’ fy swydd yn fraint – mae’n rhoi boddhad mawr. Mae rhoi cymorth i rywun sy’n dymuno marw gartref a gallu helpu gyda hynny yn anrhydedd, oherwydd rydyn ni wedi sicrhau eu bod yn cael eu dymuniad olaf.”

Mae Katie yn emosiynol wrth iddi son am y rheswm mae cefnogi cleifion lliniarol mor bwysig iddi.

“Rwy’n trin pawb fel y byddwn yn trin fy nhaid a nain,” meddai. “Rwyf wedi colli nain a taid. Bu farw fy nain bedair, bum mlynedd yn ôl yn ITU.

“Roedd hi mor falch fy mod yn ofalwraig iechyd. Dywedodd wrth bob nyrs  bob dydd fy mod yn gweithio yn yr ysbyty. Roedd hi mor falch.

“Wnes i erioed freuddwydio y byddwn i'n nyrs. Byth bythoedd. Wnes i erioed feddwl y byddwn i’n ddigon da.”

Mae Metron Cymunedol Sir Ddinbych, Lisa Orhan, wedi cefnogi ac annog Katie trwy gydol ei hamser yn yr ardal.

Meddai: “Bydd Katie yn gwneud nyrs wych. Rwyf wedi cael sawl nod yn ystod fy ngyrfa nyrsio ac yn sicr mae hi wedi cyflawni ym mhob ffordd.  Rydw i’n dweud wrthi’n gyson ‘dilyn dy freuddwydion a phaid byth ag ildio’.”

Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)