Gorffennaf 3, 2023
Gofynnir i bobl yng Ngogledd Cymru ailfeddwl am eu harferion yfed yn dilyn rhybudd y gallai yfed alcohol ‘cudd’ fod yn peryglu eu hiechyd.
Gallai newidiadau eang mewn arferion yfed yn dilyn y pandemig COVID-19 olygu bod llawer mwy o bobl yn niweidio eu lles trwy yfed mwy, ac yn amlach.
Canfuwyd bod mwy na 60% o’r bobl a gwblhaodd offeryn asesu alcohol ar-lein y bwrdd iechyd dros y chwe mis diwethaf mewn perygl cynyddol neu uwch o niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol.
Yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol hon, mae pobl ar draws Gogledd Cymru yn cael eu hannog i ailystyried eu defnydd o alcohol fel rhan o’r ymgyrch Ailfeddwl Am Yfed sy’n cael ei chynnal gan y bwrdd iechyd a’i bartneriaid.
Mae ymchwil cenedlaethol wedi dangos bod tua un o bob tri o bobl ledled Cymru wedi cynyddu faint o alcohol yr oeddent yn ei yfed yn ystod pandemig COVID-19.
Roedd newidiadau i arferion – gan gynnwys ffyrlo, a gweithio hyblyg a gweithio gartref – yn cyfrannu’n sylweddol, ochr yn ochr â chyflyrau iechyd meddwl cysylltiedig â phandemig gan gynnwys gorbryder ac iselder, a diflastod ac unigrwydd.
Mae ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru wedi cynyddu i’w lefel uchaf erioed yn ystod 2021.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Betsi Cadwaladr, Teresa Owen, fod y pandemig wedi ysgogi newid yn ein perthynas ag alcohol.
“Mae newidiadau ffordd o fyw a wnaed yn ystod cyfnodau clo COVID-19 wedi golygu bod rhai pobl yn yfed mwy ac yn yfed yn amlach – yn aml gartref, ac weithiau wedi'u galluogi neu eu hannog gan batrymau gwaith ac arferion cymdeithasol newydd,” meddai.
“O ganlyniad, gallai mwy a mwy o bobl nad ydynt efallai’n meddwl amdanynt eu hunain fel rhai sy'n yfed gormod fod mewn perygl o achosi niwed iddynt eu hunain. Gall yr yfed cudd hwn ddigwydd heb i bobl sylweddoli, gan gynyddu'r tebygolrwydd o ystod eang o broblemau iechyd a chymdeithasol.
“Felly yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth Alcohol hon a thrwy gydol yr haf, rydym yn gofyn i bawb ar draws Gogledd Cymru ailfeddwl am yfed – trwy gymryd eiliad i ystyried faint a pha mor aml y maent yn yfed, ac i edrych ar ffyrdd y gallent wella eu lles trwy yfed llai.”
Mae canllawiau gan Brif Swyddogion Meddygol y DU yn argymell peidio ag yfed mwy na 14 uned o alcohol yr wythnos yn rheolaidd, ac yfed dros dri diwrnod neu fwy. Maen nhw'n dweud bod un neu ddau o sesiynau yfed trwm yr wythnos yn cynyddu'r risg o salwch hirdymor, damweiniau ac anafiadau.
Mae manteision eraill yfed llai o alcohol yn aml yn cynnwys cysgu’n well, colli pwysau a chroen gwell – yn ogystal ag arbed arian.
Dechreuodd Caren Brown, o Fethesda, yfed llai o alcohol cyn rhoi’r gorau i yfed yn 2020 ar ôl sylweddoli’r effaith yr oedd alcohol yn ei chael ar ei ffordd o fyw. Dywedodd y ddynes 54 oed fod y penderfyniad wedi newid ei bywyd er gwell.
“Roeddwn i'n teimlo fy mod ar olwyn bochdew,” meddai. “Roeddwn i’n meddwl ‘Dydi hyn ddim yn iawn – mae hyn yn mynd ychydig dros ben llestri rŵan…’
“Mae bywyd yn fwy esmwyth, yn bendant. Rydw i wedi bod yn hapus iawn ... mae gen i lawer mwy o arian i wneud pethau rydw i'n eu mwynhau. Mae gen i lawer mwy o amynedd, ac mae bywyd yn haws i'w fwynhau.
“Gallaf wneud llawer mwy o ddydd i ddydd, rwy’n llawer iachach. Ac mae'r rhai o'm cwmpas yn dweud fy mod i'n llawer mwy o hwyl i fod o'i chwmpas.”
Mae Caren yn ymddangos mewn fideo ymgyrch arbennig Ailfeddwl Am Yfed i arddangos manteision lleihau cymeriant alcohol.
Mae tudalen we Ailfeddwl Am Yfed y bwrdd iechyd yn cynnig offeryn asesu alcohol ar-lein dwyieithog achrededig, cyngor ac awgrymiadau i dorri lawr, dolenni i wasanaethau cymorth ac adnoddau hunangymorth.
Os ydych chi'n bryderus ac yn meddwl bod angen mwy o gymorth arnoch chi i leihau faint o alcohol rydych chi'n ei yfed, gallwch gysylltu â DAN24/7 am gymorth a chyngor unrhyw bryd – ddydd a nos. Mae ein Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau yn darparu cymorth cyfrinachol, anfeirniadol, proffesiynol a hygyrch sy'n anelu at leihau'r niwed a achosir gan alcohol.
🔵 Cewch y newyddion diweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr drwy gofrestru ar ein rhestr bostio.