Neidio i'r prif gynnwy

Staff gofal iechyd yn Ysbyty Gwynedd yn cymryd rhan mewn treial cenedlaethol i ddeall imiwnedd COVID

Mae staff yn Ysbyty Gwynedd yn cymryd rhan mewn treial cenedlaethol sy’n bwriadu canfod p’un ai yw gweithwyr gofal iechyd sydd wedi cael COVID-19 yn flaenorol wedi cael eu hamddiffyn rhag pyliau o’r haint yn y dyfodol.  

Mae’r treial, a elwir yn SIREN (Gwerthusiad Ail-haint ac Imiwnedd Sarscov 2) yn cael ei arwain gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr ac yn cael ei gynnal mewn oddeutu 130 o wahanol leoliadau ar draws y Deyrnas Unedig. Cefnogir yr astudiaeth gan y Tîm Ymchwil ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.  

Dywed adroddiadau cychwynnol o’r astudiaeth bod gwrthgyrff yr haint COVID-19 blaenorol yn rhoi 83% o amddiffyniad rhag cael yr haint eto am o leiaf bum mis. 

Yn Ysbyty Gwynedd, Dr Chris Subbe, Ffisigwr Ymgynghorol, yw Prif Ymchwilydd yr astudiaeth, ac mae 138 o weithwyr gofal iechyd, yn cynnwys meddygon, nyrsys, cynorthwywyr gofal iechyd a staff gweinyddol wedi cael eu recriwtio i gymryd rhan yn y treial.

Dywedodd Dr Subbe, sydd hefyd yn cymryd rhan yn y treial: “Mae SIREN yn mynd i ateb un o’r cwestiynau pwysicaf ar gyfer COVID-19: A yw haint yn ein hamddiffyn rhag salwch yn y dyfodol ac os felly, am ba mor hir?

"Gyda channoedd o weithwyr rheng-flaen wedi dioddef o haint COVID fel rhan o’u gwaith yn y GIG, mae angen i ni wybod sut y bydd hyn yn effeithio ar ein gallu i ofalu yn ystod pandemigau sydd i ddod gyda firysau tebyg.”

Bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn cael prawf bob pythefnos i ddechrau, gan gymryd sampl gwaed a swab trwyn/gwddf a’u dadansoddi i weld os yw’r un sy’n cymryd rhan wedi cael y firws ac os yw wedi datblygu gwrthgyrff ai peidio. Mae’r astudiaeth yn dilyn y rheiny sy’n cymryd rhan am 12 mis fel y gall ymchwilwyr barhau i archwilio am ba mor hir y gall imiwnedd bara.

Dywedodd Caroline Mulvaney-Jones, Swyddog Arbenigol Ymchwil Clinigol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sydd wedi’i lleoli yn Ysbyty Gwynedd: “Mae’r Tîm Ymchwil yn falch iawn ac yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r treial hwn, rydym wedi cael ymateb arbennig gan y staff yn yr ysbyty sydd wedi cofrestru i fod yn rhan o’r ymchwil hanfodol hwn.  

“Mae llawer o’r rheiny sy’n cymryd rhan yn teimlo fel petaent yn rhoi rhywbeth yn ôl a gan eu bod yn cael prawf yn rheolaidd mae’n tawelu eu meddwl.

“Mae wedi bod yn ddiddorol iawn i weld y cymysgedd o weithwyr gofal iechyd sydd wedi cofrestru i fod yn rhan o’r astudiaeth hon, o staff gweinyddol i Feddygon Ymgynghorol – mae nifer y rheiny sy’n cymryd rhan wedi bod yn wych.”  

Mae Adran Ymchwil a Datblygiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r GIG, prifysgolion a rhanddeiliaid i ariannu, cefnogi a gwella ymchwil sy’n newid bywyd.

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cymorth a Darparu yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:

“Mae deall imiwnedd yn ffactor hanfodol arall o ran mynd i’r afael â’r pandemig COVID-19. Mae’r astudiaeth SIREN, sydd wedi recriwtio o saith sefydliad GIG yng Nghymru, yn hanfodol fel y gallwn gael darlun llawnach o’r dystiolaeth ochr yn ochr â’n hymchwil i mewn i driniaethau, brechlynnau a gofal tymor hir i’r rheiny sy’n adfer o’r firws.  

“Mae’n wych gweld bod staff yn Ysbyty Gwynedd yn awyddus i gymryd rhan a chyfrannu at yr astudiaeth a diolch yn fawr i bawb sydd wedi gwirfoddoli.”