Mae partner cadwyn gyflenwi wedi’i benodi ar gyfer prosiect Ysbyty Cymuned newydd Gogledd Sir Ddinbych yn y Rhyl.
Penodwyd Kier i reoli pob agwedd o’r gwaith adeiladu ar gyfer y datblygiad £40m.
Bydd y prosiect yn cyflwyno ystod o wasanaethau newydd i drigolion y Rhyl a’r ardal gyfagos. Bydd yr ysbyty newydd, fydd yn cael ei adeiladu y drws nesaf i Ysbyty Brenhinol Alexandra y Rhyl yn cynnwys gwelyau cleifion mewnol, gwasanaeth ar gyfer trin mân anafiadau ac anhwylderau, gwasanaethau therapi IV a chanolfan lles cymuned a chaffi.
Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys ailwampio’r Ysbyty presennol.
Mae gwaith ar y gweill yn awr i gwblhau’r achos busnes llawn ar gyfer y prosiect, sy’n cynnwys datblygu manylebau manwl ar gyfer ystafelloedd a gweithio drwy ganiatâd cynllunio i’r prosiect.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn bwriadu cyflwyno Achos Busnes Llawn i Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2020, gyda’r bwriad o ddechrau’r gwaith adeiladu yn gynnar yn 2021.