4 Ebrill, 2024
Mae gwasanaeth ffôn 24 awr newydd sy'n cynnig cymorth iechyd meddwl brys wedi delio â bron i 12,000 o alwadau yn y flwyddyn gyntaf ers ei lansio yng Ngogledd Cymru.
Lansiwyd Gwasanaeth 111 Pwyso 2 GIG Cymru ym mis Ionawr 2023 ar gyfer pobl sydd â phryderon iechyd meddwl brys neu bryderon am rywun maent yn ei adnabod. Mae’n cynnig mynediad cyflym at weithiwr iechyd meddwl proffesiynol, gan ddileu’r angen am gyfeirio gan Feddyg Teulu. Mae’n ddewis arall hollbwysig yn hytrach nag ymweld ag adrannau achosion brys neu ffonio’r heddlu.
Ar gyfartaledd, mae staff ymroddedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi delio â thua 1,000 o alwadau bob mis ers lansio’r gwasanaeth.
Dywedodd Becky Baker, Pennaeth Gweithrediadau a Chyflenwi Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu (Ardal y Dwyrain): “Ers ei lansio, mae’r gwasanaeth hwn wedi rhoi llawer iawn o gymorth hanfodol i bobl, gan eu helpu i gael mynediad cyflym at y cymorth sydd ei angen arnynt, pryd bynnag y mae ei angen.
“Rydyn ni’n derbyn amrywiaeth eang o alwadau gan bobl o bob oedran sydd angen gwahanol lefelau o ofal a chymorth, a dyna pam rydyn ni yma.
“Efallai bydd rhywun sy’n ffonio mewn argyfwng ac angen cymorth ar unwaith er mwyn ei ddiogelwch ei hun neu bydd rhywun arall sy'n cael trafferth oherwydd materion cymdeithasol neu ariannol, sy'n effeithio ar eu lles emosiynol. Rydyn ni’n cefnogi pobl o bob oed, felly efallai bydd plant mewn trallod yn cysylltu â'r gwasanaeth neu rieni sy'n pryderu am iechyd meddwl eu plant.
“Trwy ein proses brysbennu gallwn benderfynu ar y ffordd orau i gefnogi rhywun, boed hynny drwy ddarparu cymorth a chyngor ar unwaith, cyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl, neu gyfeirio at gymorth arall, er enghraifft, yn y trydydd sector,.
“Mae’r gwasanaeth hwn eisoes wedi helpu llawer o bobl i gael yr help sydd ei angen arnynt cyn gynted â phosibl. Rydyn ni’n edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn gan helpu mwy o bobl yn y dyfodol.”
Ar ôl blwyddyn gyntaf lwyddiannus, mae’r gwasanaeth bellach wedi cyflwyno gwasanaeth galw’n ôl newydd. Bydd yn cefnogi pobl a fyddai fel arfer yn cael eu cyfeirio ar unwaith at wasanaethau iechyd meddwl sylfaenol gan sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt cyn gynted â phosibl.
Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth sydd ar gael drwy ddewis ‘opsiwn 2’ ar linell gymorth GIG 111 Cymru, ar wefan BIPBC yma.