Neidio i'r prif gynnwy

Lansio gwasanaeth cefnogi newydd i bobl yng Ngogledd Cymru â phroblemau iechyd meddwl

21.04.2021

Mae gwasanaeth cefnogi ar-lein wedi ei lansio i helpu i leihau unigrwydd ac unigedd i bobl â phroblemau iechyd meddwl a’u gofalwyr ledled Gogledd Cymru.

Mae ‘North Wales Space’ wedi ei ariannu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’i ddarparu gan yr elusen iechyd meddwl o Gymru, Hafal.

Mae’r gymuned cefnogaeth cymheiriaid ar-lein, sy’n cael ei fonitro 24/7, yn cynnig gofal diogel i bobl siarad am iechyd meddwl mewn amgylchedd cefnogol, cysylltu ag eraill mewn sefyllfaoedd tebyg a chael gwybodaeth ddefnyddiol ar wasanaethau ym mhob un o chwe sir Gogledd Cymru.

Mae’n rhan o’r platfform ar-lein Clic a sefydlwyd gan Hafal yn 2016 i ddarparu cefnogaeth well i bobl â phroblemau iechyd meddwl a’u gofalwyr yng Nghymru.

Diolch i gyllid gan bartneriaid Mental Health UK yn Lloyds Banking Group, yn ystod y pandemig coronafirws, llwyddodd Hafal i wneud Clic ar gael i bawb sy’n byw yn y DU. Mae wedi bod yn achubiaeth hanfodol i filoedd o bobl sy’n brwydro ag unigrwydd ac unigedd yn ystod y pandemig.

Mae ‘North Wales Space’ yn safle micro penodol o Clic, sy’n galluogi pobl i gysylltu â phobl debyg ledled y rhanbarth a darganfod gwybodaeth ar wasanaethau cefnogi lleol.

Dywedodd Mike Smith, Cyfarwyddwr Dros Dro Nyrsio ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu yn BIPBC:

“Rydym yn falch iawn y gallwn, gyda chefnogaeth Hafal, gynnig offer defnyddiol arall i helpu pobl gael cefnogaeth ar y cyd a rheoli eu hiechyd meddwl 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos.

“Mae gan gymunedau cefnogol ar-lein fel Clic rôl bwysig i helpu i leihau’r unigrwydd a’r unigedd y mae llawer o bobl â phroblemau iechyd meddwl yn gallu eu profi.

“Drwy ‘North Wales Space’, gall pobl ar hyd a lled y rhanbarth ddarganfod cyfleoedd gwych i wneud cysylltiadau a siarad am eu hiechyd meddwl mewn cymuned gwbl gefnogol.”

Dywedodd Pennaeth Cyfathrebu Hafal, Matt Pearce: “Rydym yn lch iawn o allu cefnogi BIPBC i greu’r gofod rhithiol penodol i bobl yng Ngogledd Cymru, fydd yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr iawn i wneud ffrindiau, siarad yn agored am iechyd meddwl a darparu cefnogaeth i’r naill a’r llall.”

I gael mynediad at North Wales Space, ewch i: https://northwales.clic-uk.org/

I gael rhagor o wybodaeth ar y gefnogaeth iechyd meddwl sydd ar gael yng Ngogledd Cymru, ewch i’r Hwb Iechyd meddwl ar wefan BIPBC: Hwb Iechyd Meddwl - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)