Neidio i'r prif gynnwy

'Gwnes i grïo wrth gael fy nhaflu i'w chanol hi yn ITU yn ystod y pandemig' medd cyn nyrs orthopaedig

01/10/21

Mae nyrs theatr orthopaedig a grïodd pan gafodd ei secondio i uned gofal critigol pan oedd y pandemig yn ei anterth bellach o'r farn mai "ffawd' oedd symud yno.

Roedd Hayley Baldwin wedi gweithio fel nyrs theatr yn uned orthopaedig Abergele am 11 mlynedd pan arweiniodd Covid at orfod cau'r uned dros dro y llynedd.

Cafodd hi a llawer o'i thîm eu hanfon at Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, i "ddysgu'r hanfodion" am ofalu am gleifion a oedd wedi'u heintio â'r coronafeirws newydd.

Roedd yn rhaid i staff ar draws y Bwrdd Iechyd gyd-dynnu gan fod y pandemig wedi arwain at orfod cau gwasanaethau ac adleoli'r gweithlu ar raddfa fawr er mwyn trechu ton gynyddol heintiau.

Fodd bynnag, i Hayley, sy'n fam i ddau o blant, a oedd yn gyfrifol am sicrhau bod llawfeddygon yn derbyn y cyfarpar cywir yn ystod llawdriniaethau i osod gliniau a chluniau newydd, roedd meddwl am ofalu am gleifion a oedd yn hynod wael gyda Covid yn gwneud iddi deimlo ei bod "wedi'i pharlysu gan ofn".

Ar ôl cael cais i roi help llaw ar Uned Therapi Dwys (ITU) yr ysbyty, cyfaddefodd Hayley ei bod "wedi'i pharlysu gan ofn".

Datgelodd: "Roeddwn i wedi bod yn adran adfer y theatr ond nid oeddwn i erioed wedi bod yn ITU na'r Uned Ddibyniaeth Fawr (HDU).

"Yn fyr, gwnaethom ni edrych ar sut mae peiriannau anadlu'n gweithio ac roeddwn i'n crïo pan ddes i allan o'r sesiwn. Nid oeddwn i am ddod i ITU - i'r fan honno y mae'r cleifion â'r salwch mwyaf difrifol yn mynd.

"Roeddwn i wedi dychryn gan nad oeddwn i'n gwybod beth oedd ynghlwm wrth ofal dwys ac nid oeddwn i erioed wedi cael y cyfrifoldeb o ofalu am glaf a chynnal ei fywyd."

Eto i gyd, fel cynifer o staff yn ystod y pandemig, gwnaeth Hayley roi ei phryderon personol i'r naill ochr ac aeth i'r uned yr wythnos ganlynol.

Roedd yn rhaid iddi ddod i'r arfer â phwysau ITU, yn ystod y cyfnod anoddaf yn ei hanes, a sifftiau anghymdeithasol hirach o lawer.

"Pan afaelodd Covid ynom ym mis Mai a mis Mehefin y llynedd, roedd gennym gleifion lefel 2 i ofalu amdanynt ond hynny gyda chymorth nyrs ITU," esboniodd.

Roedd rhwng chwech a saith nyrs ar gyfer pob claf ar beiriant anadlu ac roedd Hayley yn ofni na fyddai'n dysgu dim fel rhan fach o dîm mor fawr.

Fodd bynnag, wrth i'r pandemig fynd o ddrwg i waeth a chan fod angen gofal critigol ar fwyfwy o gleifion, o fewn dim o dro, llwyddodd i uwchraddio ei sgiliau ar garlam.

Dywedodd: "Yn y lle cyntaf, roeddem ni yma i helpu'r nyrsys ITU ond wrth i bethau brysuro, roeddem ni’n gallu derbyn cleifion lefel 3 ar beiriannau anadlu a chleifion lefel 2 yr oedd arnynt angen CPAP (Pwysedd Positif Parhaus yn y Llwybr Anadlu) neu ocsigen llif mawr trwy'r trwyn ond yr oeddent yn dal yn gallu siarad.

"Dyma pam y cymerais ran fwyfwy gan fy mod i'n gallu gofalu am y cleifion hynny a pho fwyaf yr oeddwn i’n cymryd rhan, mwyaf oll yr oeddwn i'n ei fwynhau. Dysgais rywbeth ar bob un sifft.

"Roedd gweld cymaint o bobl sâl yn uffernol ond roedd llawer o gymorth ac roedd yn dda gwybod ein bod i gyd yn mynd trwy'r un peth - mae'n dîm hyfryd i weithio ynddo.”

Un bonws annisgwyl oedd bod patrymau'r sifftiau, gan weithio dri neu bedwar diwrnod neu noson hir yr wythnos, yn rhoi mwy o amser iddi gyda'i feibion sydd rhwng 6 a 10 oed.

"Rydw i'n teimlo'n fwy bodlon ar fy ngyrfa," meddai. "Bellach fi yw'r nyrs sy'n gofalu am y claf sydd wedi cael 10 neu 11 o drwythiadau ac rydw i'n gwybod sut i ddelio â hynny.

"Mae'n haws deall peiriannau anadlu erbyn hyn ac mae'n peri braw ond po fwyaf y byddwch yn cymryd rhan, gorau oll fydd eich canlyniadau dysgu.

"Mae'n rhaid i chi gofleidio'r peth am yr hyn ydyw, cadw meddwl agored a bod yn fodlon dysgu. Gwnes i synnu fy hun a bod yn onest.

“Ni fyddwn i byth wedi meddwl am ITU pe na fyddwn i wedi cael fy nhaflu i'w chanol hi. Mae fel petai'n ffawd mewn ffordd."

Dywedodd Karen Carter prif nyrs ITU: "Roedd y newid yn drawiadol i Hayley ac roedd yn fodd o wella hwyliau ar yr uned i'w gweld hi’n cymryd at y swydd fel y gwnaeth.

"Roedd yn gwneud i ni deimlo ein bod ni wedi gwneud rhywbeth yn iawn ac roedd pethau fel hynny'n rhoi gobaith i mi ar yr adegau hynod anodd."

Gwnaeth Dr. Andy Foulkes, cyfarwyddwr clinigol Ysbyty Glan Clwyd, cyfarwyddwr llawfeddygaeth, anaesthesia a gofal critigol amlinellu'r straen yr oedd staff a oedd yn gweithio trwy gydol y pandemig oddi tani.

Gan amlygu'r ffordd na allai'r tîm fod wedi ymdopi heb y rhai a wirfoddolodd i helpu, ychwanegodd: "Wrth reswm, roedd gan lawer o staff a oedd yn dod i helpu bryderon ond gwnaethant ddod atom ni'r un fath ac wrth wneud hynny, gwnaethant gymryd rhan mewn gwaith nad oeddent wedi bod ynghlwm wrtho o'r blaen.

"Mae'n adlewyrchiad ar bob un o'n staff fod yr awyrgylch a welodd Hayley, hyd yn oed ar adegau prysur y pandemig, yn un a achosodd iddi edrych ar ei gyrfa o'r newydd ac i benderfynu ei bod am aros. Edrychwn ymlaen at weithio gyda hi am gryn amser i ddod."