Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth trwy ffenest y car llwyddiannus yn Wrecsam ar gyfer cleifion gydag anawsterau anadlu yn cynyddu capasiti profi o 30%

29/07/2021

Mae gwasanaeth sbirometreg trwy ffenest y car wedi agor yn Ysbyty Maelor Wrecsam i brofi cleifion gydag anawsterau anadlu, gan gynyddu’r capasiti profi o 30%.

Mae’r gwasanaeth yn caniatáu cleifion, sydd wedi cael eu cyfeirio at y gwasanaeth trwy ffenest y car gan feddyg ymgynghorol, i gael profion gweithrediad yr ysgyfaint o gysur eu cerbydau eu hunain.

Mae sbirometreg yn brawf gweithrediad yr ysgyfaint a ddefnyddir i helpu i wneud diagnosis a monitro rhai cyflyrau’r ysgyfaint megis asthma, clefyd yr ysgyfaint interstitaidd, a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD). Mae’r prawf yn mesur faint o aer allwch chi anadlu allan mewn un anadl wedi’i orfodi gan ddefnyddio dyfais gyda darn ceg a elwir yn sbiromedr.

Meddai Mr David Clough, Prif Ffisiolegydd Anadlol yn Ysbyty Maelor Wrecsam: “Mae’r gostyngiad mewn capasiti oherwydd y pandemig wedi arwain at gynnydd yn y nifer o gleifion sy’n aros am ymchwiliadau, gyda’r potensial i achosi oedi mewn diagnosis a thriniaeth. Nid oes digon o le clinigol priodol o fewn yr adran i gynyddu capasiti, felly rhoddwyd cynnig yn ei flaen gan Dr James Kilbane i ddatblygu clinig sbirometreg drwy ffenest y car, gyda’r nod o gael effaith sylweddol ar yr amser y mae cleifion yn gorfod aros am ymchwiliadau anadlol, ac isafu oedi ar gyfer diagnosis a thriniaeth.

“Gyda chleifion yn mynychu yn eu cerbydau eu hunain, mae’n caniatáu nifer fwy o brofion i gael eu gwneud na fyddai’n bosibl yn yr Adran Cardio-anadlol oherwydd y mesurau diogelwch Covid-19.

“Gyda chefnogaeth a gwaith caled Dr Kilbane, y tîm rheolaeth weithredol a’r tîm ffisioleg anadlol, dechreuodd y cynllun sbirometreg trwy ffenest y car ym mis Mehefin 2021, yn perfformio ymchwiliadau ar gleifion na fyddwn fel arall wedi bod â’r capasiti i’w hymchwilio. Mae hyn yn newyddion positif iawn i’r gwasanaeth a’n cleifion.”

Mae’r gwasanaeth ffisioleg anadlol wedi cael ei effeithio’n sylweddol gan y pandemig Covid-19 gan golli 83% o’i gapasiti i brofi gweithrediad yr ysgyfaint, sy’n cynnwys sbirometreg ymysg ymchwiliadau eraill. Mae’r gwasanaeth trwy ffenest y car, ochr yn ochr â menter arall sydd wedi gwella awyriad yn yr ystafell clinig gweithrediad yr ysgyfaint, wedi helpu i gynyddu’r nifer o gleifion sy’n cael eu profi o 71% o’i gymharu â chyn y pandemig.

Mae’r clinig yn digwydd o dan babell fawr nesaf at y fynedfa i’r uned adferiad yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae cleifion, sydd wedi cael eu cyfeirio at y gwasanaeth trwy ffenest y car gan feddyg ymgynghorol, yn cyrraedd yn eu car ac yn gyrru i mewn i fan parcio o dan y babell, ac yna bydd aelodau o staff o’r tîm ffisioleg anadlol yn eu cyfarch yn eu car ac yn gwneud ymchwiliad sbirometreg sy’n cydymffurfio â rheolau Covid-19 trwy ffenest y car. Yna mae’r claf yn rhydd i adael a bydd y canlyniadau yn cael eu hanfon ymlaen at y meddyg ymgynghorol a’u cyfeiriodd.