Mae llinell ffôn bwrpasol GIG yn darparu cymorth iechyd meddwl arbenigol i bobl sy’n byw yng Ngogledd Cymru bellach yn fyw.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw'r bwrdd iechyd diweddaraf yng Nghymru i lansio gwasanaeth cyngor iechyd meddwl pwrpasol, yn cynnig cyngor a chymorth i bobl o bob oed trwy gyfrwng y rhif galw GIG 111 sefydledig.
Anogir y rheiny sy'n bryderus am eu hiechyd meddwl eu hunain neu iechyd meddwl anwylyd i alw 111 a dewis opsiwn 2, lle cânt eu rhoi drwodd i un o ymarferwyr lles pwrpasol y bwrdd iechyd.
Gellir ffonio’r rhif o ffôn tŷ neu ffôn symudol yn rhad ac am ddim, hyd yn oed pan nad oes gan y sawl sy’n ffonio unrhyw gredyd yn weddill. Dywed y Bwrdd Iechyd - mewn sefyllfaoedd sy'n peryglu bywyd, y dylai pobl bob amser alw 999 neu fynychu eu Hadran Achosion Brys (A&E) agosaf.
Mae'r gwasanaeth 111 Pwyswch 2 ar gael ar hyn o bryd o 8.30 - 23.00, saith noson yr wythnos, ond disgwylir iddo weithredu ar sail 24/7 o ddiwedd Mawrth 2023 ymlaen, unwaith y bydd staff ychwanegol wedi eu recriwtio a'u hyfforddi.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn un o bedwar bwrdd iechyd sy’n darparu'r gwasanaeth, sydd wedi ei sefydlu gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Lynne Neagle, Dirprwy Weinidog ar gyfer Iechyd Meddwl a Lles:
“Mae'r gwasanaeth 111 pwyswch 2 yn drawsnewidiad sylweddol i wella mynediad at gymorth iechyd meddwl ac rwyf wrth fy modd bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn lansio ei wasanaeth newydd i bobl yng Ngogledd Cymru.
“Rydym wedi darparu £6m i gefnogi byrddau iechyd i weithredu’r gwasanaeth hwn gyda'r nod o roi sylw 24/7 ar draws Cymru y flwyddyn nesaf.”
Dywedodd Dr Alberto Salmoiraghi, Cyfarwyddwr Meddygol Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
“Rydym yn gwybod nad yw llawer o bobl yn ein cymunedau yn gwybod ble i droi i gael cyngor a chymorth ar gyfer problemau neu ymholiadau ynghylch iechyd meddwl.
“Bydd y gwasanaeth newydd hwn, y mae gwir angen amdano, yn darparu un pwynt mynediad i bobl ar draws y rhanbarth. Bydd ein tîm GIG 111 Pwyswch 2 yn gallu cyfeirio unigolion at y gwasanaethau hynny sy'n cwrdd â'u hanghenion orau, gan sicrhau bod ganddynt fynediad amserol i'r cymorth mwyaf addas.
“Mae hyn yn cydblethu â’n gweledigaeth strategol ehangach o ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl sy'n canolbwyntio ar gleifion, sy’n ymatebol ac yn hygyrch. Rydym yn bwriadu datblygu’r gwasanaeth GIG 111 Pwyswch 2 ymhellach, gan sicrhau ei fod wedi ei integreiddio'n llawn gyda gwasanaethau lleol.”
Yn ogystal â darparu mynediad haws at y cyngor a'r cymorth cywir, y gobaith yw y bydd y gwasanaeth newydd yn lleihau'r pwysau ar wasanaethau GIG eraill, yn cynnwys gofal sylfaenol.
Dywed y Meddyg Teulu Dr Jim McGuigan, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
“Fel Meddygon Teulu, rydym yn ymwybodol iawn o'r angen i bobl gael mynediad hawdd at gymorth a chyngor iechyd meddwl arbenigol, felly rydym yn croesawu cyflwyniad y gwasanaeth GIG 111 Pwyswch 2 yng Ngogledd Cymru.
“Mae hyd at 40 y cant o apwyntiadau Meddyg Teulu yn ymwneud â phryderon iechyd meddwl ac mae gwasanaethau gofal sylfaenol yn parhau i wynebu pwysau sylweddol, felly ni allwn bob amser ddarparu'r cymorth amserol sydd ei angen.
“Efallai y bydd llawer o bobl yn gweld bod modd delio’n well â'u hanghenion iechyd meddwl trwy ffonio’r gwasanaeth GIG 111 Pwyswch 2, yn hytrach na gwneud apwyntiad i weld eu Meddyg Teulu.”
Mae cyfeirio pobl sydd ag anghenion gofal brys at y man cywir, y tro cyntaf yn uchelgais gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’i rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys. Mae Nod 2, yn arbennig, yn anelu at sefydlu llwybr (GIG 111 Pwyswch 2) i gynorthwyo pobl o ran iechyd emosiynol, salwch meddwl a/neu faterion lles i gael mynediad uniongyrchol at weithiwr iechyd meddwl 24/7. Fe'i cynlluniwyd o edrych ar y modelau arfer gorau yn yr Alban a Lloegr.
111 Opsiwn 2 - Cymorth iechyd meddwl i bawb - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr