22.11.21
Yn sgil buddsoddiad gwerth £4m, mae ysbyty cymunedol wedi cael ei drawsnewid yn hwb iechyd a lles modern, addas ar gyfer yr 21ain ganrif.
Mae Ysbyty Cymuned Rhuthun, a saif yn y dref ers 117 mlynedd, wedi cael ei drawsnewid a'i uwchraddio'n sylweddol yn ystod y broses.
Mae'n golygu y bydd trigolion yr ardal yn gweld ystod o wasanaethau meddygol a chymunedol yn cael eu cyfuno mewn un ganolfan, gan sicrhau fod gan bobl o ardal Rhuthun a'r cylch siop un stop ar gyfer eu hiechyd a'u lles.
Fe wnaeth cyfarwyddwr clinigol therapïau, Gareth Evans, ganmol tîm y prosiect am eu gwaith yn datblygu'r safle ar ei newydd wedd, er gwaetha'r tarfu gan y pandemig.
Dywedodd: “Mae'r prosiect wedi bod yn bartneriaeth wych rhwng BIPBC a rhanddeiliaid allweddol megis Cyngor Sir Ddinbych, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Chynghrair Cyfeillion Ysbyty Cymunedol Rhuthun.
“Bydd yn cynnig llawer o fuddion i'r gymuned, ac fe wnaiff hynny wella deilliannau i'r boblogaeth leol am flynyddoedd lawer.”
Fel rhan o integreiddio gwasanaethau lleol, mae practis a fferyllfa Clinig Mount Street wedi symud i safle 27 gwely Stryd Llanrhydd a bydd yn cychwyn apwyntiadau ddydd Llun, Tachwedd 22.
Crëwyd estyniad newydd ar gyfer y practis ar safle hen uned ffisiotherapi’r ysbyty. Mae hyn bellach yn caniatáu lle i gefnogi gwaith a hyfforddiant amlddisgyblaethol, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr meddygol.
Mae'r ysbyty'n darparu gwelyau cam-i-fyny a cham-i-lawr yn ogystal â nyrsio ardal, therapïau, cleifion allanol a chlinig cof, sy'n creu amgylchedd delfrydol i leoli addysgu myfyrwyr meddygaeth.
Mae ymchwil yn dangos bod meddygon teulu sy'n hyfforddi mewn ardal benodol yn parhau i fod yn deyrngar i'r ardal honno, ac un enghraifft o hynny yw cyfarwyddwr meddygol gweithredol cyfredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Dr Nick Lyons, a hyfforddodd fel meddyg teulu yng Ngogledd Cymru.
Yn ogystal, bydd y safle newydd yn galluogi'r practis i ehangu ei ystod o wasanaethau, megis mân lawdriniaethau ac atal cenhedlu.
Bydd gwasanaethau iechyd meddwl gofal cychwynnol gan gynnwys cwnsela hefyd ar gael ar safle'r ysbyty.
Ychwanegodd Gareth Evans: “Fel cyfarwyddwr y prosiect, rydw i wrth fy modd bod ein nod i ail-ddarparu gwasanaethau o glinig Mount Street yn Rhuthun wedi'i wireddu.
“O ddydd Llun, Tachwedd 22, bydd ystod o wasanaethau gofal cychwynnol a chymunedol yn ardal Rhuthun yn cael eu darparu o adeiladau modern, addas at y diben yn Ysbyty Rhuthun, gan ddarparu profiad cleifion gwell o lawer i'r boblogaeth leol.”
Nid oedd Clinig Mount Street yn gallu ehangu na datblygu oherwydd cyfyngiadau adeilad oedd yn heneiddio, felly cytunodd Cyngor Sir Dinbych i gyfnewid tir.
Rhoddodd yr awdurdod lleol rywfaint o'i dir i'r ysbyty cymunedol ger safle Ysbyty Cymuned Rhuthun, yn gyfnewid am adeilad Mount Street.
Mae'r Gynghrair Cyfeillion leol hefyd wedi bod yn allweddol wrth ariannu derbynfa newydd, bar te ac ystafell i berthnasau, gyda buddsoddiad o bron i £50,000.
Dywedodd un aelod o'r staff, Maxine Jones, ei bod yn falch o'r ysbyty wedi'i uwchraddio a datgelodd gysylltiad agosach â'r safle na llawer o'i chydweithwyr.
Dywedodd: “Rwy'n gweithio yn Ysbyty Cymuned Rhuthun ers 34 mlynedd fel gweithiwr domestig a chefais fy ngeni yn yr ysbyty hwn ym 1963.
“Rwyf wedi gweld rhai newidiadau go iawn ac roeddwn i'n arfer dod yma pan oeddwn i'n gweithio i Sant Ioan. Rydw i wrth fy modd â'r hyn maen nhw wedi'i wneud i'r ysbyty nawr. Mae'n weddnewidiad go iawn ac mae'n wych eu bod wedi gallu gwneud hyn yn ystod cyfnod Covid.”
Mae tîm y prosiect wedi ystyried pob agwedd ar brofiad claf ac wedi cyflwyno nifer o nodweddion newydd i'r adeilad: