Neidio i'r prif gynnwy

Gwahodd y cyhoedd i roi sylwadau ar gynlluniau ar gyfer uned iechyd meddwl 'o'r radd flaenaf' yn Sir Ddinbych

06.02.23

Mae cynlluniau ar gyfer uned iechyd meddwl cleifion mewnol ‘o'r radd flaenaf’ a maes parcio aml-lawr yn Ysbyty Glan Clwyd wedi cael eu harddangos i’r cyhoedd.

Gwahoddir pobl i rannu eu hadborth ar gynlluniau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer yr uned 63 gwely newydd a’r maes parcio aml-lawr cyn i gais cynllunio llawn gael ei gyflwyno i Gyngor Sir Ddinbych ym mis Mawrth.

Bydd yr uned newydd, a allai gostio hyd at £84.5 miliwn, yn cymryd lle Uned Ablett yr ysbyty a’r cyfleuster iechyd meddwl cleifion mewnol i bobl hŷn ym Mryn Hesketh, Bae Colwyn.

Mae’r cynlluniau wedi’u datblygu yn dilyn ymgysylltu cynhwysfawr â chleifion, gofalwyr, staff, sefydliadau partner a’r cyhoedd yn ehangach.

Wedi'i leoli y tu ôl i safle'r ysbyty, bydd yn darparu mwy o welyau a chyfleusterau llawer gwell i staff a chleifion.

Mae cynlluniau’r Bwrdd Iechyd yn cynnwys ward iechyd meddwl pobl hŷn 14 gwely ac uned asesu gofal dementia 13 gwely gyda chyfleusterau en-suite a darpariaeth i deuluoedd a gofalwyr aros gyda’r rhai sy'n annwyl iddynt dros nos.

Bydd hefyd dwy ward bwrpasol gydag 16 gwely i oedolion ynghyd ag ardaloedd dadgynhyrfu, a fydd yn darparu amgylchedd nyrsio diogel i gleifion aciwtedd uchel, gan osgoi'r angen i'w trosglwyddo i unedau iechyd meddwl eraill.

Mae ystafell asesu i alluogi cleifion addas i gael eu symud o'r Adran Achosion Brys mewn modd amserol hefyd wedi'i chynnwys, yn ogystal â mwy o ofod awyr agored a therapiwtig a chyfleusterau gwell i staff a theuluoedd.

Wedi’i adeiladu i’r safonau effeithlonrwydd ynni uchaf - bydd y datblygiad yn helpu i gefnogi ymateb Llywodraeth Cymru i’r argyfwng hinsawdd.

Yn 2021, gwrthodwyd cais am Ganiatâd Cynllunio Amlinellol ar safle i’r de-orllewin o dir yr ysbyty gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ddinbych, a nododd effaith annerbyniol ar drigolion lleol.

Ar ôl gweithredu ar y pryderon hyn, mae'r safle newydd ar leoliad maes parcio 5 y tu ôl i’r ysbyty, ymhell i ffwrdd o ffiniau preswylwyr lleol.

I wneud iawn am y lleoedd parcio ceir a fydd yn cael eu colli, bydd dec llawr cyntaf yn cael ei adeiladu dros faes parcio 3, ym mlaen yr ysbyty, ynghyd â phwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan, i adfer y lleoedd parcio a gollir pan adeiladir yr uned iechyd meddwl newydd.

Mae opsiynau eraill i wella sut mae staff, cleifion ac ymwelwyr yn cael mynediad at safle’r ysbyty hefyd yn cael eu harchwilio, gan gynnwys ailgyflwyno’r cynllun Parcio a Theithio, os gellir sicrhau lle parcio addas oddi ar y safle.

Fel rhan o ymdrechion parhaus i leihau ei effaith carbon, mae’r Bwrdd Iechyd hefyd yn archwilio sut i wneud mwy o ddefnydd o opsiynau beicio i’r gwaith a rhannu ceir, cynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol, gweithio ystwyth ac o'r cartref, a mwy o ddefnydd o dechnoleg fideo ac ar-lein ar gyfer ymgynghoriadau o bell, lle bo'n briodol.

Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol sy'n gyfrifol am Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu BIPBC:

“Ein dyhead yw darparu cyfleuster o'r radd flaenaf sy'n galluogi ein staff gweithgar i ddarparu'r safonau gofal uchaf y mae ein cleifion yn eu haeddu mewn amgylchedd modern, addas i'w ddiben.

 “Rydym yn awyddus i glywed adborth pobl ac rwy’n eu hannog i ymweld â gwefan y Bwrdd Iechyd neu fynychu ein sesiwn galw heibio i weld y cynlluniau a rhoi gwybod i ni beth yw eu barn.”

Ym mis Hydref 2022, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru Achos Busnes Amlinellol BIPBC ar gyfer y datblygiad.

Os ceir cymeradwyaeth bellach gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Ddinbych, Bwrdd BIPBC, a Llywodraeth Cymru, dylai gwaith ar y safle ddechrau yn ystod haf 2024, gyda’r adeilad yn derbyn ei gleifion cyntaf yn haf 2026.

Mae'r cynlluniau ar gael i'w gweld ar wefan BIPBC trwy glicio yma. Anogir pobl i anfon adborth drwy e-bost, neu drwy gwblhau'r arolwg ar-lein cyn 5 Mawrth.

Bydd digwyddiad galw heibio yn cael ei gynnal yn gwesty Faenol Fawr ar 27 Chwefror, rhwng 14:00 a 20:00.