16 Ionawr, 2024
Mae Fferyllfa GIG newydd wedi agor yn Llanberis, yn sicrhau bod gan bobl leol fynediad hawdd at feddyginiaethau a chyngor arbenigol unwaith eto, a hynny ar garreg eu drws.
Yn dilyn cau fferyllfa’r dref y llynedd, mae’r Bwrdd Iechyd wedi gweithio gyda Fferyllwyr Llŷn, sydd ȃ fferyllfeydd eraill wedi’u lleoli yn Nefyn, Abersoch, Llanbedrog, Blaenau Ffestiniog a Chricieth, i sefydlu fferyllfa newydd yn y dref.
Agorodd y fferyllfa newydd yn Llanberis ddiwedd fis Tachwedd, ac mae’n cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau, gan gynnwys dosbarthu presgripsiynau a’r cynllun anhwylderau cyffredin.
Dywedodd Adam Mackridge, Arweinydd Strategol ar gyfer Fferylliaeth Gymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Yn dilyn penderfyniad cwmni’r fferyllfa flaenorol i gau, buom yn gweithio’n agos gyda Fferyllwyr Llŷn a oedd wedi gwneud cais i agor fferyllfa yn Llanberis i leihau’r effaith ar y gymuned yn deillio o’r cyfnod pontio.
“Er mwyn sicrhau bod y gymuned leol yn parhau i gael mynediad at wasanaeth fferyllfa, cynigiodd y cwmni wasanaeth dros dro i ddanfon a chasglu presgripsiynau fel nad oedd angen i bobl deithio yn bellach.
“Hoffem gymeradwyo gwaith caled y tîm yn Fferyllwyr Llŷn, sydd wedi llwyddo i sicrhau bod meddyginiaethau o fewn cyrraedd i bobl y gymuned.
“Mae’n rhagorol gweld bod y fferyllfa’n gweithredu’n llawn, ac rwy’n ffyddiog bydd yr ystod eang o wasanaethau clinigol y bydd y tîm yn eu cynnig yn cael effaith gadarnhaol ar y gymuned leol.
“Fel Bwrdd Iechyd rydym yn gyffrous ein bod wedi comisiynu ystod eang o wasanaethau clinigol o’r fferyllfa newydd, ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Fferyllwyr Llŷn i helpu i wella mynediad a dewisiadau i gleifion yn Llanberis a’r gymuned ehangach, gan eu cefnogi i fyw bywydau iachach.”
Mae Arfon Bebb, a oedd yn rheolwr Fferyllfa HH Parry yn Abersoch yn flaenorol wedi’i benodi’n fferyllydd yn y fferyllfa newydd.
Dywedodd: “Rydym yn falch iawn fod gennym ein fferyllfa newydd ar waith yn Llanberis i gynnig amrywiaeth eang o wasanaethau i’r boblogaeth.
“Roeddem yn ymwybodol o’r angen am fferyllfa yn y dref ac yn ymwybodol am deimladau cryf y gymuned am hyn. Felly, rydym yn hapus iawn i agor un o’n canghennau yma fel nad oes rhaid i bobl leol deithio ymhellach i gael mynediad at wasanaethau fferyllol.”