26.01.23
Fe wnaeth tîm therapi arbenigol helpu cyn-nyrs i adfer ei annibyniaeth ar ôl cael strôc, trwy ei helpu i yrru ei gar Maserati y mae'n meddwl y byd ohono unwaith eto.
Ofnai Peter Walton o Landudno na fuasai fyth yn gallu dychwelyd y tu ôl i lyw ei brif ddiléit ar ôl cael strôc ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn 64.
Fodd bynnag, fe wnaeth y tîm Rhyddhau'n Gynnar â Chymorth yn Ysbyty Glan Clwyd ddefnyddio ei hoffter o'i gar i helpu i gymell y rheolwr gofal nyrsio i wella'n rhyfeddol - ar ôl gadael yr ysbyty ym mis Hydref yn defnyddio ffrâm Zimmer.
Roedd Peter yn ddi-ildio ac fe wnaeth ei gynnydd ryfeddu ei deulu ac fe aeth yn ei gar campus i ymweld â'r meddygon - dim ond saith wythnos ar ôl y strôc a wnaeth ei lesgáu.
“Fe wnes i yrru fy hun ac roedd popeth yn iawn,” meddai Peter. “Roedd hynny'n deimlad da. Mae'n debyg fod hynny'n un o fy arwyddion i ddangos fy mod yn well.”
Fe wnaeth hynny amlygu trawsnewid hynod i'r gyn-nyrs a dreuliodd 44 mlynedd yn y proffesiwn, a ganfu yn ddisymwth na allai gael cawod na defnyddio'r toiled ar ei ben ei hun ar ôl ei strôc.
Dywedodd fod gwaith y tîm ESD, a'i allu i gael ei gefn ato gartref, yn allweddol o ran ei wellhad. Fodd bynnag, bydd yn dal yn mynd yn flinedig iawn, ac mae hynny'n un o sgil effeithiau cyffredin y cyflwr.
Strôc - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)
Dywedodd Jodie van Heerden, ffisiotherapydd sy'n cydweithio â'r tîm, fod therapi dwys ac awydd Peter i wella wedi ysgogi ei adferiad.
Dywedodd: “Mae Peter yn gryf ei gymhelliad ac yn ddi-droi'n-ôl. Mae hynny'n hwyluso ein gwaith yn arw. Ymhen dim ond saith wythnos ar ôl ei strôc, cerddodd oddeutu 600m y tu allan heb ddefnyddio unrhyw gymhorthion cerdded a gan wneud hynny ar lethr. Roedd yn rhyfeddol.
“Cafodd gymorth eithaf dwys ac nid wyf yn credu y byddai wedi gwneud y fath gynnydd heb hynny. Bellach, gall Peter fynd mewn i'w gar Maserati. Gyrru'r car hwnnw oedd ei nod, ac mae hi wedi bod yn bleser go iawn cael gweithio gydag ef.”
Dechreuodd ei daith ar 26 Medi, wrth iddo wneud ei hun yn barod i fynd allan gyda'i ferch i ddathlu ei ben-blwydd yn 64.
Eglurodd Peter, “roeddwn i'n mynd i fyny'r grisiau ac yn teimlo fy mod yn cerdded ar y lleuad”. “Gorweddais ar y gwely. Daeth fy merch draw ac fe ffoniodd ei mam, fy nghyn-wraig.
“Dywedais fy mod i'n teimlo'n sigledig ac roeddwn i'n credu'n wreiddiol fy mod i wedi cael meigryn. Gallwn deimlo fy wyneb yn merwino o'r ochr dde uchaf hyd at fy ngên.”
Er iddo orfod disgwyl am gyfnod sylweddol i fynd i'r ysbyty ac i Ward 14 yng Nglan Clwyd, roedd Peter yn hollol fodlon â'r gofal a'r sylw a gafodd.
Dywedodd: “Roeddent yn wych, rhagorol. Fe wnaethant ateb y disgwyliadau fel uned arbenigol. Rwy'n credu y daeth y meddygon a'r therapyddion i'm gweld y bore canlynol a'm hanfon i gael profion.
“Roeddwn i wedi bod yno am dair wythnos, ac yna, daeth Jodie ataf i i drafod Rhyddhau'n Gynnar â Chymorth.”
Teimlai Peter yn gyfoglyd yn ystod ei arhosiad yn yr ysbyty, ni allai gysgu ac roedd pendro difrifol arno. I ddechrau, ni allai sefyll ar ei draed a theimlai boen yn ei wyneb, rhywbeth sy'n dal yno. Dywedodd fod y sefyllfa yr oedd ynddi yn peri straen iddo.
Felly, roedd wrth ei fodd yn clywed am y syniad o barhau â'i driniaeth gartref wedi tair wythnos o therapi dwys.
“Fe wnaeth mynd adref roi hwb i mi,” dywedodd. “Roedd hynny fel y Môr Coch yn ymwahanu. Roedd yn wych. Roeddwn yn cydymdeimlo â fy nheulu oherwydd yr oeddent yn ymweld â mi bob nos. Bydd hynny'n gwneud i chi deimlo eich bod yn faich ar eraill oherwydd mae'n daith gron o 40 milltir.”
Eglurodd Peter y gwnaed newidiadau i'w gartref, megis canllaw ar y grisiau ac addasiadau yn ei ystafell ymolchi, ymhen oriau ar ôl iddo gyrraedd.
Yn ystod y bythefnos gyntaf, cafodd ymweliadau gan therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion a chynorthwywyr gofal iechyd bum diwrnod yr wythnos. Fe wnaeth ei ferch, sy'n brif nyrs ac yn arweinydd tîm ardal yn Ninbych, gadw golwg ar ei gynnydd hefyd.
Ychwanegodd: “Byddwch yn teimlo'n hyderus os bydd yr un bobl yn ymweld â chi a byddwch yn dod i'w adnabod ymhen amser. Roedd gweld wyneb cyfarwydd ar stepen y drws yn rhoi hwb i fy hyder.”
Fe wnaeth Jodie y ffisiotherapydd egluro manteision gallu gweithio yng nghartrefi pobl wrth iddynt wella yn dilyn strôc. Dywedodd: “Yng nghartrefi cleifion, bydd yn haws gweld beth yw eu nodau - bydd eu cymhelliad yn gryfach. Rwy'n frwdfrydig ynghylch atal apwyntiadau mewn ysbytai.
“Gallwn wneud gwaith adsefydlu gartref a bydd cleifion yn gwneud llawer iawn mwy iddynt hwy eu hunain, mae'n rhaid iddynt wneud mwy, gartref. Gallwn weld beth sy'n bwysig mewn gwirionedd i'r unigolyn. Mae'n ddifyrrach ac yn well o ran anghenion y claf. Rwyf wrth fy modd â hynny.”
Datgelodd y daeth cymorth dwys Peter i ben wedi pum wythnos, a bydd yn cael apwyntiad dilynol ymhen oddeutu chwe wythnos.
Mae Sushmita Mohapatra yn therapydd ymgynghorol ym maes strôc ac yn arweinydd y rhaglen ESD yn Ardal y Canol. Eglurodd pam mae therapi yn y cartref yn fuddiol.
Dywedodd: “Mae'r cysyniad o helpu pobl i ymgyfarwyddo yn eu cartref yn un synhwyrol, oherwydd hynny fydd eu hamgylchedd arferol.
“Bydd therapi dwys yn ystod y misoedd cyntaf yn sicrhau canlyniadau gwell o ran eu hadsefydlu. Rhwng tri mis a blwyddyn wedi'r strôc, bydd mwy o ystwythder yn yr ymennydd, sy'n golygu y gall yr ymennydd addasu'n well bryd hynny nag y gallai'n ddiweddarach.
“Byddwn yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau megis ymarfer meddyliol neu ddelweddau meddyliol i helpu'r ymennydd i ailddysgu symudiadau. Byddwch yn dychmygu gafael mewn cwpan, ac yn raddol, byddant yn cychwyn deffro'r bysedd a'r aelodau.
“Bydd yr ymennydd yn creu llwybrau newydd ac yn ailagor yr hen lwybrau. Mae'n debyg i geisio dargyfeirio i osgoi tagfeydd traffig ac ailsefydlu llif y wybodaeth rhwng yr ymennydd a'r llaw, y goes a'r tafod, er enghraifft.”
Yn sicr, mae gwaith y tîm wedi bod yn fuddiol i Peter, ac mae bellach yn edrych ymlaen at fywyd ar ôl yr ergyd a gafodd. Dywedodd: “Fe wnes i roi'r gorau i deimlo fy mod i'n ddefnyddiol i'r gymdeithas. Ymhen oriau, collais yr holl hyder hwnnw, ac fe wnaeth y tîm fy helpu i'w adfer.”