Gwobr Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant
Ellen Greer
Mae cydweithwyr wedi sôn am ymagwedd drugarog a chynhwysol Ellen tuag at wella agenda cydraddoldeb PBC. Maent yn dweud ei bod wedi sicrhau ei bod ar gael i'r tîm ers iddi ddod yn gyfrifol am y gweithlu a datblygu sefydliadol.
Bu'n cadeirio grŵp cydraddoldeb hiliol y gweithlu a chymerodd ran mewn nifer o rwydweithiau a chynadleddau sy'n gysylltiedig â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Mae ei chydweithwyr yn nodi ei bod yn awyddus i wireddu buddion cynllun cydraddoldeb strategol y sefydliad a gwnaeth ei hymagwedd effeithlon sicrhau bod cydraddoldeb yn aros ar yr agenda.
Cafodd y Wobr Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant ei noddi gan Unsain a Managers in Partnership, a gynrychiolwyd gan Viv Nelson a Stephen James a ddywedodd: "Llongyfarchiadau i bob un o'r tri sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol am y wobr hon.
"Mae sicrhau bod gan bawb gydraddoldeb o ran mynediad at wasanaethau'r GIG yn hollbwysig er tegwch, ac mae'n hynod bwysig cydnabod ymdrechion pawb a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon.
"Llongyfarchiadau i Elen, enillydd teilwng ar y noson am ei gwaith am helpu pobl ledled ein cymunedau i fanteisio ar y gwasanaethau sydd ei angen arnynt."