Neidio i'r prif gynnwy

Tîm 'Eithriadol' Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy yn ennill Gwobr Ymateb COVID-19

25/10/2022

Mae'r tîm a oedd gyfrifol am Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy, wedi ennill gwobr am ei ymdrechion eithriadol yn ystod pandemig COVID-19. 

Pan oedd y pandemig yn ei anterth, gwnaeth tîm a oedd wedi'i adleoli o rolau amrywiol, weithio o fore gwyn tan nos i drawsnewid Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy yn ysbyty â 400 o welyau, a oedd yn cynnwys pedair ward a marwdy.  

Cafodd yr ysbyty maes ei gyhoeddi fel enillydd Gwobr Tîm Ymateb ac Adferiad COVID-19 yn noson Gwobrau Staff 2022 Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr nos Wener, 21 Hydref. 

Dywedodd Claire Perry, enwebydd Cydlynydd Gwasanaethau Clinigol Gwasanaethau Canser, a gafodd ei hadleoli i weithio yn yr Ysbyty Enfys: "Roedd y pandemig byd-eang yn rhywbeth nad oeddem wedi'i brofi o'r blaen. Roedd Ysbytai Maes yn rhywbeth a ddefnyddiwyd yn ystod y rhyfel, nid oedddem ni byth yn meddwl y byddai hyn yn rhywbeth a fyddai'n rhaid i ni, fel cydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd, ei wneud. 

"Roedd gweithio yn yr Ysbyty Enfys yn cynnig datblygiad i staff ac roedd yn darparu cyfleoedd i ddysgu ac arloesi, dysgu sgiliau newydd, ffyrdd newydd o weithio, a syniadau ar sut i gynnal yr ysbyty maes, fel bod cleifion yn cael y profiad gorau mewn amgylchiadau eithriadol." 

Gwnaeth yr ysbyty dros dro, a grëwyd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ar ddechrau'r pandemig, ddechrau derbyn cleifion ym mis Tachwedd 2020 wrth i ail don o heintiau Coronafeirws daro a chafodd ei gau ym mis Mawrth 2021. 

Ychwanegodd Claire: "Aeth Tîm yr Enfys y tu hwnt i roi'r cleifion yn gyntaf. Byddent yn cynorthwyo cleifion i ffonio perthnasau, treulio amser yn sgwrsio â nhw. Gwnaethant gysylltu ag elusennau, ac roedd y rhoddion a'r cymorth ar gyfer cleifion a staff yn rhyfeddol. 

"Gwnaeth y tîm helpu i ofalu am gant o gleifion, gwnaeth pob un dderbyn gofal eithriadol mewn amgylchedd hynod unigryw. Roedd yn brofiad anhygoel, ac roeddwn yn falch o gael y cyfle i weithio gyda Thîm yr Enfys." 

Dywedodd Richard Heaton, Rheolwr-gyfarwyddwr Read Construction: "Roeddem ni'n hynod falch o allu cyflwyno'r wobr bwysig hon, a oedd yn cydnabod ymdrechion eithriadol tîm yn gweithio yng Ngogledd Cymru i'n harwain trwy'r heriau sydd wedi codi dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. 

"Rwy'n meddwl y dylai pawb ddangos eu diolchgarwch i'r timau sydd wedi gofalu am ein poblogaeth trwy gydol y pandemig, ac roedd y tîm a oedd yn gyfrifol am Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy yn enghraifft wych o'r gwaith dewr sydd wedi ein helpu trwy'r cyfan. 

"Llongyfarchiadau i bob un o'r tîm a fu'n gweithio ar y darn anhygoel o waith yma."