Mae Rhwydwaith Lerpwl, yn cynnwys Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canolfan Walton, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canolfan Ganser Clatterbridge a Chanolfan Trin Canser Gogledd Cymru, wedi ennill statws Canolfan Ragoriaeth ar ôl asesiadau trwyadl dan arweiniad arbenigwyr o Genhadaeth Canser yr Ymennydd Tessa Jowell (TJBCM).
Dywedodd Niwrolawfeddyg Ymgynghorol Canolfan Walton, yr Athro Michael Jenkinson: Mae'n bleser gennym ni o fod wedi cael ein cydnabod fel canolfan ragoriaeth TJBCM. Mae'r tîm cyfan yn gweithio'n hynod galed i gyflwyno'r gofal cofleidiol gorau posibl i'r holl 500 o gleifion â thiwmor ar yr ymennydd a'u teuluoedd sy'n cael eu trin yng Nghanolfan Walton bob blwyddyn. Rydym yn ymroddedig i ddarparu gofal o ansawdd uchel, sy'n drugarog ac yn gyfannol yn ogystal â chynnig treialon clinigol a chyfleoedd ymchwil i gleifion - hebddynt hwy, ni fyddai triniaethau newydd a gwell yn bosibl."
Gan fod mwy na 12,000 o bobl yn derbyn diagnosis prif diwmor yr ymennydd bob blwyddyn yn y DU, mae'r dyfarniad wedi'i gyflwyno er mwyn cydnabod ysbytai am eu rhagoriaeth o ran gofal cleifion. Dan arweiniad pwyllgor o arbenigwyr yn y maes ac ymweliadau safle rhithiol, cafodd yr asesiadau eu hategu gan adborth cleifion am y gofal a gawsant. Mae'r dyfarniad hwn yn un o blith dau i gael ei roi yn y DU eleni, mae 11 o ganolfannau wedi derbyn y statws hyd yn hyn. Dyfarnwyd y statws i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Barts hefyd.
Roedd y ffordd y mae tri aelod Rhwydwaith Lerpwl yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod pobl â chanser yr ymennydd yn derbyn gofal di-dor trwy gydol yr hyn sy'n gallu bod yn daith driniaeth gymhleth iawn yn cynnwys diagnosis, llawdriniaeth, cemotherapi a/neu radiotherapi, wedi gwneud cryn argraff ar aseswyr TJBCM.
Dywedodd Dr Shaveta Mehta, Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol yng Nghanolfan Ganser Clatterbridge: "Rydym yn falch iawn bod ein hymagwedd sy'n canolbwyntio ar gleifion a'r safon uchel o ofal ynghyd â chydweithio agos rhwng timau gwahanol yn Lerpwl a Gogledd Cymru wedi cael eu cydnabod. Bydd bod yn Ganolfan Ragoriaeth ddynodedig ac yn rhan o Academi Tessa Jowell newydd yn gyfle gwych i rannu arbenigedd ac i ddysgu gan ganolfannau eraill, gan wella ymhellach safon y gofal a phrofiad pobl sydd â chanser yr ymennydd ledled y DU."
Mae statws "Rhagoriaeth" yn rhoi sicrwydd am argaeledd gofal ardderchog yn y GIG, a chydnabyddiaeth bositif i'n staff sy'n parhau i fynd gam ymhellach dros gleifion, er gwaethaf heriau'r pandemig.
Dywedodd Dr Win Soe, Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru: "Mae Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru yn hynod falch o fod yn rhan o'r tîm a enillodd statws mawreddog Canolfan Ragoriaeth Tessa Jowell. Mae'n adlewyrchu gwaith caled ac ymrwymiad staff ar bob lefel i ddarparu cynllun gofal unigol ond sy'n gynhwysfawr i gleifion sydd â thiwmor ar yr ymennydd. Yn benodol, mae'r dyfarniad yn rhoi sylw i'r 'rhagoriaeth a'r arweinyddiaeth a arddangosir trwy gydol y llwybr triniaeth.' Mae'r ffaith bod y dyfarniad hwn wedi'i dderbyn er gwaethaf yr heriau sydd wedi codi trwy gydol y Pandemig Covid yn dyst i waith y tîm cyfan.”
Mae'r adroddiad gan TJBCM yn disgrifio bod y tîm "wedi dangos rhagoriaeth ac arweinyddiaeth ar hyd y llwybr triniaeth" a'i fod "yn falch i fod â chi fel llysgennad i rwydwaith Canolfan Ragoriaeth Tessa Jowell".
Dywedodd yr Athro Kate Bushby, a arweiniodd yr asesiad: "Mae'n bleser gen i gyhoeddi dwy Ganolfan Ragoriaeth newydd sydd wedi dangos meysydd rhagoriaeth unigryw y mae cleifion yn cael budd ohonynt. Trwy gydol 2021, rydym wedi gweld o lygad y ffynnon sut mae canolfannau wedi bod yn rhannu gwybodaeth fwyfwy a sut maent yn arloesi o ran y ffordd y maent yn cynnig gofal i gleifion. Edrychaf ymlaen at weld y datblygiadau hyn yn parhau dros yr ychydig flynyddoedd nesaf ac i weld sut bydd cleifion a'u teuluoedd yn cael mynediad at ofal sy'n gwella'n barhaus."
Dair blynedd yn ôl, rhoddodd y Farwnes Tessa Jowell ei haraith bwerus yn Nhŷ'r Arglwyddi yn cydnabod yr angen i wella triniaeth, gofal a goroesiad yn achos tiwmor ar yr ymennydd i'r holl gleifion. Ers hynny, mae TJBCM, gyda'r Athro Katie Bushby fel arweinydd y rhaglen, wedi bod yn arwain ar fenter ddynodi Canolfan Ragoriaeth Tessa Jowell - ymarfer sydd â'r bwriad o gydnabod a gwobrwyo canolfannau niwro-oncoleg am eu rhagoriaeth mewn gofal cleifion.
I gael rhagor o wybodaeth am y Genhadaeth, ewch i: https://www.tessajowellbraincancermission.org/
Canolfannau Rhagoriaeth Tessa Jowell: