Neidio i'r prif gynnwy

Dychwelyd i drefniadau ymweld â chleifion mewnol mamolaeth cyn COVID-19 yng Ngogledd Cymru

24/08/2022

Mae newidiadau wedi cael eu gwneud i drefniadau ymweld â chleifion mewnol mamolaeth ar draws Gogledd Cymru yn dilyn diweddariad i’r arweiniad cenedlaethol ar atal a rheoli heintiau COVID-19.

Mae’r trefniadau lleol ar gyfer ymweld â chleifion mewnol mamolaeth a oedd yn eu lle cyn COVID-19 ar waith eto ar gyfer ymweld â mamolaeth, genedigaeth, mynychu sganiau uwchsain yn ystod beichiogrwydd ac apwyntiadau mamolaeth mewn ysbytai a safleoedd cymunedol.

Bellach, caiff hyd at ddau bartner geni fod yn bresenol yn ystod y cyfnod esgor gweithredol a gall un partner geni neu unigolyn enwebedig arall ymweld â’r wardiau cyn-geni/ôl-enedigol rhwng 9am hyd 8pm yn ddyddiol, nid oes angen trefnu. Mae ymweliadau cyffredinol ar gael o 2pm hyd 4pm a 6pm hyd 8pm i hyd at ddau ymwelydd ar unrhyw adeg benodol, nid oes angen trefnu.

Nid oes bellach angen i ymwelwyr ddarparu tystiolaeth o Brawf Llif Unffordd ac nid oes bellach angen am sgrinio unigol neu frysbennu ar adeg cael mynediad i’r ward famolaeth.

Gofynnwn i holl ymwelwyr barhau i fod yn wyliadwrus am symptomau er mwyn amddiffyn ein cleifion, babanod, staff ac ymwelwyr. Ni chaniateir i unrhyw un sy’n profi’n bositif am COVID-19 neu sydd â symptomau i ymweld tra byddant yn heintus. Ni ddylai ymwelwyr fynychu os oes ganddynt hwy, neu aelodau o’u haelwyd symptomau sy’n awgrymu COVID-19 neu heintiau eraill, er enghraifft Norofeirws.

Gallwch ganfod manylion llawn ynghylch y trefniadau ymweld diwygiedig ar ein gwefan.

Gall y sefyllfa mewn unrhyw leoliad gofal iechyd newid yn sydyn. Efallai y caiff cyfyngiadau eu hail-gyflwyno ar fyr rybudd, er diogelwch ein babanod, cleifion, ymwelwyr a staff. I ofyn am wybodaeth bellach am sut yr ydym yn asesu trefniadau ymweld â mamolaeth, gallwch gysylltu â’n Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion (PALS) ar ein gwefan. 

Newidiadau wedi dod i rym ar 24 Awst 2022.