Caiff cynlluniau terfynol i ailddatblygu gwasanaethau iechyd yn Y Rhyl eu cyflwyno i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y mis nesaf.
Caiff Achos Busnes Llawn y prosiect i ailwampio gwasanaethau a ddarperir ar gyfer trigolion yn Y Rhyl a Gogledd Sir Ddinbych ei gyflwyno yng nghyfarfod y Bwrdd Iechyd ar 12 Tachwedd.
Bydd y prosiect yn darparu ystod o wasanaethau o ysbyty newydd ar safle Ysbyty Brenhinol Alexandra, yn ogystal ag adnewyddu adeilad presennol rhestredig Gradd-II yr ysbyty.
Bydd gwasanaethau'n cynnwys gwelyau cymunedol, gwasanaeth mân anafiadau a salwch yr un diwrnod, man triniaeth, therapi i gleifion allanol a gwasanaethau therapi mewnwythiennol.
Byddai gwasanaethau iechyd rhyw, deintyddiaeth gymunedol, radioleg, seicoleg oedolion, iechyd meddwl pobl hŷn a gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc hefyd yn cael eu darparu o'r safle.
Mae gwelliannau seilwaith gan gynnwys mannau gwaith amlddisgyblaethol a gwelliannau i feysydd parcio hefyd wedi'u cynnwys yn y datblygiad.
Cyllideb y prosiect fydd rhyw £64m i gwblhau'r gwaith. Mae'r cynnydd mewn costau ers cwblhau'r Achos Busnes Amlinellol (OBC) yn cynnwys:
Byddai'r rhaglen waith ddiwygiedig, o gael ei chymeradwyo, yn arwain at waith adeiladu ar yr ysbyty newydd yn dechrau ym mis Mawrth 2021, ac amcangyfrifir mai Chwefror 2023 fydd y dyddiad cwblhau.
Y nod i'r prosiect cyffredinol, gan gynnwys gwaith adnewyddu yn Ysbyty Brenhinol Alexandra, fyddai cwblhau'r gwaith ym mis Medi 2023.
Cymerodd fwy na 200 o bobl ran mewn arolwg dros yr haf i gasglu adborth ar y prosiect. Mae adborth ar faterion gan gynnwys parcio, cynlluniau ar gyfer yr adeiladau sydd eisoes ar safle'r ysbyty yn parhau i fod ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd.
Dywedodd Gareth Evans, Cyfarwyddwr y Prosiect: “Cawsom adborth gwirioneddol gadarnhaol ac adeiladol dros yr haf sydd wedi helpu i lunio'r ffordd y mae'r cynnig wedi datblygu.
“Rydym bellach yn edrych ymlaen at gyflwyno'r Achos Busnes Llawn y mis nesaf ac i barhau i ddatblygu'r prosiect."
Os caiff y prosiect ei gymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd ar 12 Tachwedd, caiff y prosiect ei anfon i Lywodraeth Cymru i gael ei graffu a'i gymeradwyo ymhellach.
Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd trwy'r ddolen hon.