8.11.2023
Dechreuodd hyfforddi fel nyrs yn Aberystwyth yn 1991, ac ar ôl gweithio ym maes meddygaeth, gofal yr henoed ac adsefydlu strôc, symudodd i nyrsio cymunedol yng Nghonwy a Sir Ddinbych yn 1991.
Daeth yn rheolwr tîm, yna’n rheolwr, cyn datblygu’n bennaeth nyrsio ardal a gofal sylfaenol.
Tua 18 mis yn ôl, cafodd ei dyrchafu i rôl y pennaeth nyrsio ar gyfer gofal canolraddol a nyrsio arbenigol o fewn y Gymuned Iechyd Integredig (IHC).
“Mae’n alwad, ac mae gennyf deimladau cryf am nyrsio a nyrsio cymunedol,” dywedodd. “Mae’n ymwneud ȃ gallu gwneud gwahaniaeth.
“Gallwch weld yn amlwg y gwahaniaeth rydych yn ei wneud bob dydd. Mae’n golygu’r byd pan rydych wedi helpu’r claf i wneud popeth yn iawn.
“Mae fy swydd yn ymwneud ȃ chefnogi timau a’u gwneud yn ymwybodol o’r hyn rydym ni’n angerddol amdano. Fy nymuniad heb os yw gwneud y safle hwn yn rhywle addysgiadol iawn i weithio ynddo.
“Mae ein nyrsys ni’n fedrus tu hwnt, ac mae angen iddynt wybod am lawer o gyflyrau a llwybrau cleifion.
“Mae ganddynt gymaint o gyfrifoldebau ar eu hysgwyddau felly mae’n hanfodol bod ganddynt yr addysg a’r gefnogaeth.”
Dywedodd Nichola mai cael ei chyflwyno ȃ theitl Nyrs y Frenhines oedd uchafbwynt ei gyrfa nyrsio.
Ychwanegodd: “Rydym yn gwybod bod Nyrsys y Frenhines wedi gwneud ambell beth anhygoel. Rwy’n eithaf gwylaidd ei bod wedi’i chyflwyno i mi. Mae’n anrhydedd ac rwy’n falch iawn.”