11 Mai 2023
Gwaeth cyfres newydd o wobrau ar gyfer staff nyrsio a bydwreigiaeth helpu i nodi dathliadau eleni ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Fydwraig a Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys.
Gwnaeth yr Uwch Dîm Nyrsio yn y Bwrdd Iechyd agor enwebiadau ar gyfer Gwobrau Nyrsio a Bydwreigiaeth PBC newydd ym mis Mawrth a arweiniodd at dderbyn bron 100 o enwebiadau o bob rhan o Ogledd Cymru.
Gwnaeth y staff nyrsio buddugol dderbyn eu gwobrau yr wythnos hon gan y Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth, Angela Wood ynghyd ag uwch aelodau o'r staff nyrsio.
Dywedodd Angela: "Rydw i mor falch bod gennym ni staff yn y sefydliad hwn sy'n dangos ein gwerthoedd ac sy’n eu dangos o ddydd i ddydd.
"Mae'r ymatebion rydym wedi'u cael i'n gwobrau nyrsio cyntaf wedi fy siomi ar yr ochr orau. Gwnaethom dderbyn bron 100 o enwebiadau ar draws yr wyth gategori, ac roedd yn anrhydedd mawr dethol yr enillwyr.
"Roedd hi'n fraint i mi deithio o amgylch y sefydliad a chael siarad â nyrsys a bydwragedd yn eu wardiau a'u hadrannau ac i glywed beth mae nyrsio a bydwreigiaeth yn ei olygu iddynt, a sut y gallwn ni roi'r cymorth cywir iddynt."
Yr enillwyr oedd...
Nyrs Gofrestredig y Flwyddyn
Paula Platt – Uned Gofal Arbennig Babanod, Ysbyty Gwynedd
Cafodd Paula Platt, Nyrs y Newydd-anedig, a gafodd ei disgrifio fel 'nyrs wych' ei chydnabod am ei hymdrechion diflino yn gofalu am fabanod a enir yn gynnar a babanod sâl sy'n derbyn gofal yn Ysbyty Gwynedd, gan hyd yn oed ddod i'r gwaith ar ei diwrnodau i ffwrdd i gefnogi ei chydweithwyr.
Dywedodd Owen Wilson, Cofrestrydd Pediatrig yn Ysbyty Gwynedd a enwebodd Paula: "Dros y blynyddoedd rydw i wedi bod yn gweithio gyda Paula, mae hi wedi profi dro ar ôl tro ei bod hi'n barod i fynd y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir gan unrhyw nyrs.
"Mae hi bob amser yn wylaidd pan fyddaf yn dangos fy ngwerthfawrogiad iddi fel nad yw’n sylweddoli maint ei chyfraniad ond rydw i’n siwr bod babanod lawer wedi cael budd mawr o'r ffaith ei bod wedi rhoi o'i hamser rhydd o'i gwirfodd.
"Mae hi bob amser yn cynnig gofal gyda gwên a phryd bynnag y byddaf yn gofyn iddi am gymorth, mae hi yno ac mae hi bob amser yn gwybod beth i'w wneud."
Bydwraig Gofrestredig y Flwyddyn
Jade Cole, Ysbyty Maelor Wrecsam
Mae Jade wedi cael blwyddyn brysur wrth iddi fynd i'r afael â rôl hyrwyddwr PERIPrem ar gyfer Cymuned Iechyd Integredig y Dwyrain, fel rhan o raglen Cymru gyfan i wella canlyniadau i fabanod newydd-anedig yn achos babanod a enir yn gynnar. Mae Jade hefyd wedi dangos ei charedigrwydd a'i thrugaredd y tu allan i'r gwaith pan droediodd i mewn i lyn i achub trigolyn lleol a oedd yn cael anhawster, gan eistedd gyda nhw am awr wrth aros i'r gwasanaethau brys gyrraedd.
Dywedodd Jade Jones, a’i henwebodd: "Mae Jade yn Fydwraig ragorol ac rydym yn ffodus iawn o'i chael hi’n rhan o'n tîm. Bob tro y bydd Jade ar y sifft, mae hi'n gwella'r hwyliau ar yr uned gyda'i agwedd bositif a chyfeillgar."
Staff Nyrsio neu Fydwreigiaeth Heb Gofrestru y Flwyddyn
Lisa Stephenson, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, Theatrau, Ysbyty Glan Clwyd
Mae Lisa wedi dangos ymroddiad rhagorol ac angerdd dros nyrsio yn ei gyrfa yn ystod cyfnod o 20 mlynedd yn Ysbyty Glan Clwyd. O ganolbwyntio ar roi cymorth gyda maeth cleifion, hydradu ac atal briwiau pwyso i fod yn gefn i aelodau iau o staff, mae Lisa yn adnabyddus am ei chefnogaeth eithriadol o ran staff a'i chydweithwyr.
Dywedodd Lois Jones, a enwebodd Lisa: "Rydw i wedi gweithio gyda Lisa fel nyrs Band 5 newydd gymhwyso, fel uwch nyrs ac rydw i bellach yn dilyn gyrfa fel ANP ym maes llawfeddygaeth. Trwy gydol y blynyddoedd hynny, ni welais erioed dim lllai na 100 y cant gan Lisa, ac mae hi'n gaffaeliad i'r Bwrdd Iechyd.
"Nid yw angerdd, ymroddiad a brwdfrydedd Lisa erioed wedi pylu ac mae hyn yn haeddu cael ei gydnabod."
Hyrwyddwr Digidol
Tîm Iechyd Rhyw, IHC y Gorllewin
Mae'r tîm wedi gweithio'n ddiflino i ddatblygu adnoddau digidol newydd i gefnogi eu cleifion, gan drawsnewid y ffordd y maent yn ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth.
"Mae arloesiadau a datblygiadau'n cynnwys ffurflen ymholiad ar-lein i gleifion nad ydynt yn gallu ffonio yn ystod oriau'r llinell apwyntiadau, ffurflenni hunanasesu ar gyfer dulliau atal cenhedlu a gwasanaethau PrEP, ac mae system trefnu apwyntiadau ar-lein newydd yn yr arfaeth. Mae'r ymdrechion estynedig i ymgysylltu â chleifion wedi arwain at leihad sylweddol mewn cwynion a gwell profiad i ddefnyddwyr gwasanaeth."
Adran Fach sy'n Gwneud Gwahaniaeth Mawr
Tîm Ymataliaeth Bediatrig, IHC y Gorllewin
Mae'r tîm sy'n cynnwys tri aelod o staff yn cyflwyno sesiynau Pledren a Choluddyn Iach i blant rhwng 9 a 11 oed ar draws Gwynedd a Môn, gan gefnogi addysg ar wlychu a rhwymedd. Eir i'r afael â'r pwnc sensitif hwn gyda'r grŵp oedran hwn mewn ffordd hwyliog a difyr, gyda'r cyfranogwyr yn gwisgo gwisg ffansi (yn cynnwys athrawon yn gwisgo fel toiledau!), a chwarae, wedi'u hategu gan gyngor ac ymchwil clinigol, er mwyn chwalu'r stigma.
Mae'r tîm hefyd yn goruchwylio adnoddau hyfforddiant defnyddio'r toiled ar gyfer teuluoedd yr holl blant bach 16 mis oed yn y rhanbarth, ac mae'r gwaith ymgysylltu'n parhau wrth i'r grŵp fynychu digwyddiadau fel Sioe Môn er mwyn gwella cysylltiadau â theuluoedd ymhellach.
Dysgwr y Flwyddyn
Sabeena Cyriac, Uned Heddfan, Wrecsam
Mae ymdrechion Sabeena i ddatblygu a gwella lles cleifion yn Uned Heddfan yn mynd y tu hwnt i ddatblygu ei dealltwriaeth ei hun o bwysigrwydd gofal iechyd corfforol yn unig. Yn ogystal ag astudio a datblygu ei gwybodaeth ei hun, mae hi hefyd wedi cefnogi cydweithwyr o ran dysgu a datblygu eu sgiliau hefyd, gan arwain at dderbyn y rôl gyswllt newydd ar gyfer ystafelloedd gofal iechyd corfforol sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd.
Mae'n uchelgais gan Sabeena hyfforddi i ddod yn ANP er mwyn datblygu gofal dan arweiniad nyrsys a chynhwysiant corfforol i gleifion ym maes Iechyd Meddwl ymhellach.
Yr Amgylchedd sydd wedi Gwella Fwyaf i Gleifion
Uned Mamolaeth, Ysbyty Glan Clwyd
Mae adborth cleifion wedi bod wrth wraidd gwelliannau a wnaed i'r Uned Mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae gwaith uwchraddio i ystafelloedd ymolchi, darnau gosod a ffitiadau a'r addurniadau trwy'r cyfan wedi bywiogi golwg yr uned.
Mae'r gwaith adnewyddu hefyd yn cynnwys datblygu gwell Uned dan Arweiniad Bydwragedd ar ffurf sba yn cynnwys goleuadau hwyliau, pwll geni sefydlog gyda goleuadau suddedig a sain amgylchynol, yn ogystal ag ystafell 'cartref oddi cartref' yn yr ystafelloedd esgor sy'n cynorthwyo symudedd ar gyfer mwy o ferched yn yr uned.
Mae taith rithiol o'r uned ar ei newydd wedd wedi cael ei datblygu hefyd, sy'n rhoi blas ar y cyfleusterau i deuluoedd sy'n defnyddio'r uned cyn iddynt ymweld yno.
Gwobr Arloesi
Sharon Jones, Ward Onnen, Ysbyty Maelor Wrecsam
Ar ôl derbyn canlyniadau C4C isel, gwnaeth Sharon ddatblygu menter 'Bay Buster', er mwyn sicrhau bod ymagwedd gydweithredol gan y tîm i wella safonau.
Ym mhob bae, mae aelodau o'r tîm wedi'u dynodi fel hyrwyddwyr y bae hwnnw; mae hyn yn gymysgedd o Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd, Nyrsys Cofrestredig a staff dydd a nos. Mae pob tîm yn gyfrifol am sicrhau bod eu hardal yn rhydd o annibendod, yn lân ac yn daclus ac am sicrhau bod yr holl fyrddau gwybodaeth yn gyfredol. Anogir cleifion i beidio pentyrru eitemau ar eu byrddau ac arwynebau loceri a gofynnir i deuluoedd beidio dod â gormod o eitemau i'r ysbyty ac i fynd â dillad budr ac ati adref yn brydlon.
Mae'r hyrwyddwyr yn gweithio ochr yn ochr â'r tîm domestig i roi cymorth o ran clicio'r baeau bob wythnos ac mae Metron a Phrif Nyrs y Ward yn ymgymryd â theithiau crwydr manylach o'r ward (fel rhan o'r archwiliadau amgylcheddol) ac yn beirniadu'r bae sydd wedi'i gynnal orau. Yna, mae'r bae hwnnw yn cael arddangos tlws bach am yr wythnos a chaiff eu llwyddiant ei ddathlu fel rhan o'r sgrym diogelwch.
Gwnaeth y rhaglen drawsnewid perfformiad C4C y ward, gan wella cyfraddau HCAI, a lleihau nifer y codymau gan gleifion.
Cafodd ei hymdrechion eu cyflwyno yn 'Fforwm Gwanwyn Atal a Rheoli Heintiau Cymru Gyfan' yng Nghaerdydd ym mis Mawrth, gan dderbyn adborth anhygoel gan gydweithwyr ledled Cymru, sydd bellach yn awyddus i'w gyflwyno yn eu hardaloedd lleol.