14.04.23
Mae cwpl a ddioddefodd y torcalon o golli un o’u hefeilliaid yn y groth oherwydd cyflwr prin wedi canmol staff a achubodd ei frawd a oedd yn dal i frwydro.
Roedd Laura Pridding ac Ali Davies, o Rosddu, Wrecsam, am adrodd eu stori oherwydd y gofal a gawsant gan staff newydd-enedigol yn Ysbyty Glan Clwyd.
Roedd ei hefeilliaid wedi dioddef o Syndrom Trallwysiad Efaill i Efaill (TTTS), sy’n digwydd mewn tua 10-15% o feichiogrwydd gydag efeilliaid sy’n rhannu brych (monocorionig).
Croesawodd y cwpl eu babi, George, i’r byd, a oedd yn pwyso dim ond 2 bwys 5 owns, ar 7 Ionawr eleni ond ganed ei frawd, Henry yn farw-enedig, ar ôl colli ei frwydr chwe wythnos ynghynt.
Fodd bynnag, esboniodd Laura faint o gymorth gafodd y cwpl wrth iddynt wynebu cyfnod mor heriol yn emosiynol ac yn seicolegol.
Dywedodd: “Fe ddaethon nhw i gyd i’r ystafell, y meddygon, y bydwragedd, yr anesthetyddion, y nyrsys ac esbonio popeth. Nid oedd gennym hyd yn oed unrhyw gwestiynau gan eu bod nhw mor drylwyr.
Laura Priddings ac Ali Davies
“Aethon nhw â ni i’r theatr a rhoi epidwral i mi ar gyfer y toriad cesaraidd ac roedd pum meddyg babanod yn aros am George. Roedd tua 20 o bobl yn yr ystafell.
“Roeddwn wedi fy llorio bod yr holl bobl yno i’'n cefnogi ni. Y peth nesaf clywsom sgrech – daeth allan yn sgrechian a’r cyfan welais i oedd mop o wallt.
“Cafodd George a Henry eu geni gyda’i gilydd, a oedd yn braf. Roeddwn yn 27 wythnos a phedwar diwrnod yn feichiog.”
Dechreuodd taith y cwpl ym mis Gorffennaf y llynedd pan ddarganfu Laura ei bod yn feichiog.
Ar ôl poenau yn ei choesau canfuwyd bod ganddi lefelau uchel o’r hormon hCG, sy’n awgrymu ei bod yn cario mwy nag un ffetws neu fod problem gyda’i beichiogrwydd.
Dangosodd sgan dilynol ei bod yn cario efeilliaid a dangosodd sganiau pellach fod gan George a Henry bob un eu sach amniotig eu hunain ac yn rhannu brych – ond nid oedd popeth yn iawn.
Parhaodd Laura â’i stori: “Cawsom sgan tua 15 wythnos a dywedasant fod ganddynt TTTS. Oherwydd eu bod yn rhannu rhydwelïau roedd George yn cael mwy o waed na Henry.
“Cawsom ein cyfeirio at adran feddygaeth ffetws yn Wrecsam. Yn yr apwyntiad, rhoddodd y meddyg hancesi papur i mi a dweud ‘ydych chi wedi clywed am drallwysiad efaill i efaill’, ac fe wnaethon ni dorri i lawr.
“Roedden ni’n gwybod yn syth beth oedd o. Roeddent yn rhannu brych a rhannu’r rhydwelïau ar y brych.”
Mae TTTS yn digwydd pan fo cysylltiadau annormal rhwng rhydwelïau gwaed y babanod ar wyneb y brych.
Mae hyn wedyn yn achosi i waed gael ei drosglwyddo o un efaill (y rhoddwr) i’r llall (y derbynnydd).
Oherwydd bod gan y babi sy’n rhoi gwaed lai o waed, mae’r llif yn cael ei flaenoriaethu i’r ymennydd. Mae hyn yn golygu y gallai organau eraill gael eu niweidio.
Mae’r efaill sy’n derbyn mewn perygl o gael problemau gyda’r galon oherwydd mae’n rhaid iddo weithio’n galetach i ymdopi â’r cynnydd yn llif y gwaed.
Cafodd Laura ei chyfeirio at Ysbyty Merched Lerpwl lle’r oedd yr arbenigwraig Asma Khalil yn gofalu amdani.
Laura Priddings ac Ali Davies
“Dywedodd heb driniaeth laser y byddai’n gwaethygu ac y byddem yn colli’r ddau ohonyn nhw,” datgelodd Laura. “Yn syth bin fe ddywedon ni ‘gwnewch o, jyst gwnewch o’. Roedd angen i ni geisio gwneud yr hyn oedd orau iddyn nhw.”
“Y drefn oedd defnyddio’r laser ar yr holl rydwelïau roedden nhw’n eu rhannu er mwyn i’r ddau gael eu cyflenwad gwaed eu hunain. Roedd risg y gallwn fynd ddechrau esgor neu roedd risg o 60% y gallai eu hymennydd gael eu niweidio. Roedd yn rhaid i ni ei wneud er mai dim ond 16 wythnos yn feichiog oeddwn i.”
Gan ddisgrifio’r driniaeth fel un “anhygoel”, gwyliodd Laura ac Ali ar fonitor ac roedd yn edrych fel ei bod wedi bod yn llwyddiannus. Fe wnaethant barhau i deithio am sganiau ond ar ôl 21 wythnos sylwodd Laura ar ddiffyg symudiad a chadarnhaodd sgan diweddarach yn drasig fod Henry wedi marw.
Parhaodd Laura: “Dywedais beth sy’n digwydd nawr? Rydw i wedi colli babi ond mae’r llall yn iawn.” Roedd y cwpl yn ei chael hi’n anodd derbyn yr ateb. Bu’n rhaid i Laura fynd drwy’r beichiogrwydd gan wybod bod Henry wedi marw, er mwyn rhoi’r cyfle gorau i George oroesi.
Dywedodd Ali: “Fe wnaethon ni gael trafferth gyda hynny.”
Ychwanegodd Laura: “Meddyliais sut ydw i’n mynd i gario ymlaen gan wybod fy mod yn cario dau fabi a fy mod wedi colli un? Roedd yn ofnadwy.”
“Dyna oedd y rhan waethaf i mi, gan wybod bod yn rhaid i mi gario ymlaen a cheisio bod yn iach i George pan oeddwn yn gwybod fy mod wedi colli’r babi.”
Ni allent edrych ar yr ychydig sganiau cyntaf ar ôl i Henry farw ond parhaodd George i ffynnu, yna torrodd dyfroedd Laura ar Ddiwrnod Nadolig y llynedd, ar ôl 25 wythnos, ac aeth i Arrowe Park.
Cafodd wrthfiotigau, magnesiwm ar gyfer ymennydd George a steroidau i helpu ei ysgyfaint yn ystod ymweliadau lluosog nes iddi gael ei hanfon i Ysbyty Glan Clwyd ar 6 Ionawr eleni.
“Roeddwn i wedi cael yr holl gyffuriau ac fe gyrhaeddon ni Glan Clwyd ac fe ddywedon nhw ‘iawn maen nhw’n dod heno’,” meddai Laura. “Roeddwn i’n 27 wythnos a phedwar diwrnod yn feichiog.”
Roedd Ali, a oedd wedi gorfod gwylio ei bartner yn mynd trwy gyfnod cythryblus, yno pan gyrhaeddodd George a Henry.
Dywedodd: “Fe ddywedon nhw pan ddaw George allan y bydd yn cael ei gymryd i ffwrdd. Doedden ni ddim yn disgwyl ei weld. Daeth allan a doedden ni ddim yn disgwyl dim byd ond ar ôl ychydig funudau fe wnaethon nhw ofyn a oeddem eisiau ei weld? Doeddwn i ddim yn gallu credu pa mor dda roedd o’n edrych ac fe wnaethon nhw adael i mi dorri’r llinyn, doeddwn i ddim yn disgwyl hynny o gwbl.”
Laura Priddings ac Ali Davies
O’i enedigaeth, gallai George anadlu ar ei ben ei hun gyda CPAP ond ar ôl 48 awr cafodd ei awyru am ddiwrnod er mwyn iddo orffwys.
Ac eto, nid oedd y problemau drosodd. Roedd ganddo syndrom band amniotig a oedd yn golygu bod y sach amniotig wedi ymdoddi i flaenau ei draed.
Perfformiodd y meddyg ymgynghorol Khalid Sultan lawdriniaeth ddwy awr o hyd i dynnu’r sach a oedd wedi ymdoddi oddi ar draed y baban newydd-enedig.
Dywedodd Ali: “Pan wnaethon nhw fy ffonio i, fe ddywedon nhw y gallai golli bysedd ei draed. Nid oedd modd eu gweld. Yn amlwg, roedd yn rhaid iddynt dorri’r croen i ffwrdd i’w dynnu allan ac roedd yn edrych yn ofnadwy. Roedd yn lwc bod Mr Sultan yno ac fe achubodd fysedd traed George. Dywedodd un o’r myfyrwyr meddygaeth fod y llawdriniaeth yn un o’r pethau mwyaf rhyfeddol a welodd erioed.”
Wrth siarad ar 3 Ebrill, dyddiad esgor George, dywedodd Laura: “Mae George wedi dod adref ers tair wythnos bellach ac rwy’n meddwl fod realiti’r sefyllfa yn eich taro rŵan oherwydd rydym wedi bod ar awtopeilot yr holl ffordd.
Mae gennych chi staff yn eich cefnogi yn yr ysbyty, yn dweud wrthych fod popeth yn normal, pethau nad ydych chi’n meddwl sy’n normal. Roedd George yn adran newydd-enedigol Glan Clwyd am bum wythnos. Roedden ni’n teithio yn ôl ac ymlaen yno bob dydd. Achubodd Glan Clwyd ei fywyd.”
Canmolodd y cwpl hefyd Dîm Profedigaeth Arbenigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Snowdrop, a’u helpodd i ymdopi â cholli Henry.
Rhoddwyd tedi bach a glöyn byw porffor i bob babi. Cafodd un ei amlosgi â Henry ac mae gan George un gydag ef gartref i’w atgoffa o’i frawd arbennig.
Mae Laura nawr yn bwriadu ysgrifennu llyfr am brofiadau’r teulu oherwydd bod TTTS mor brin ac i roi gwybod i rieni bod gobaith ar ôl profedigaeth.
Dywedodd: “Mae’n rhaid i chi gael eich ffydd yn y tîm newydd-enedig. Mae’n debyg y bydd y llyfr ar gyfer pob mam, pob mam sydd wedi bod trwy feichiogrwydd anodd neu wedi cael profedigaeth. Mae’n emosiwn eithaf cymysg yn tydi, pan wyt ti wedi colli un babi ac yna mae gen ti fabi arall? Mae’n rhaid i chi gadw’n gryf.”
Dilynwch newyddion diweddaraf y Bwrdd Iechyd trwy gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio Sign up (es-mail.co.uk)