Neidio i'r prif gynnwy

Myfyrwyr yn cael blas ar feddygaeth yn Ysbyty Gwynedd

05.04.2023

Mae tua 120 o fyfyrwyr o Wynedd a Môn sy'n ystyried gyrfa mewn meddygaeth wedi cael cipolwg ar fywyd yn gweithio mewn ysbyty prysur.

Yn ddiweddar, cynhaliwyd digwyddiad ‘Meddygon y Dyfodol’ yn Ysbyty Gwynedd a chroesawyd myfyrwyr o ysgolion lleol gan feddygon rheng flaen ac arbenigwyr eraill.

Cafodd y myfyrwyr a oedd i gyd rhwng 14 ac 16 oed, gyfle i ddysgu am astudio i fod yn feddyg. Buont hefyd yn ymweld ag ystafell efelychu'r ysbyty lle mae meddygon yn ymarfer eu technegau mewn amgylchedd diogel.

Trefnwyd y digwyddiad gan y Tîm Addysg Feddygol Israddedig, Gyrfa Cymru, Rhwydwaith Seren a Phrifysgol Bangor.

Dywedodd Mrs Kimberley Thomas, Canolfan Addysg Feddygol a Sgiliau Clinigol Israddedig: “Nid yw wedi bod yn bosibl cynnal y digwyddiad rheolaidd hwn ers cyn y cyfnod Covid, felly roeddem wrth ein bodd bod 120 o ddisgyblion wedi gallu dod i mewn i’r ysbyty i gael profi’r cyflwyniadau a’r sgiliau ymarferol sydd ar gael.

“Dechreuodd y diwrnod yn ein gweithfannau sgiliau ymarferol. Cafodd y disgyblion gyfle i gymryd hanes meddygol gan gleifion, cwblhau hyfforddiant cynnal bywyd sylfaenol (CPR), pwytho a chymryd arwyddion hanfodol gan ddefnyddio modelau.

“Roedd myfyrwyr meddygol o Brifysgolion Caerdydd a Bangor, yn ogystal â myfyrwyr Cydymaith Meddygol Prifysgol Bangor, wrth law i helpu hwyluso’r diwrnod, gan fod yn ‘gleifion’ ar gyfer y sesiwn cymryd hanes meddygol, yn ogystal ag ateb unrhyw gwestiynau a oedd gan y disgyblion.”

Mae digwyddiadau eraill yn cael eu cynllunio ar gyfer y dyfodol. Byddant wedi’u teilwra’n benodol ar gyfer grwpiau blwyddyn unigol ac yn targedu disgyblion iau gan ei bod yn bwysig eu cyrraedd yn ddigon cynnar i’w helpu i wneud y dewisiadau TGAU cywir.