Bydd cleifion cardiaidd yng ngogledd Cymru yn gallu derbyn monitorau calon wedi'u ffitio yng nghysur eu cartrefi eu hunain, gan leihau'r angen i ddod i'r ysbyty.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnig y cyfle i ryw 1,300 o gleifion dderbyn monitorau calon trwy'r post, lle gellir eu ffitio a'u dadansoddi heb yr angen i fynd i un o'r tri Ysbyty Cyffredinol Dosbarth yng ngogledd Cymru.
Mae'r fenter wedi'i chyflwyno mewn ymateb i leihad mewn clinigau a lefelau staffio oherwydd pandemig COVID-19.
Mae'r monitorau, a ddarperir gan gwmni offer meddygol Icentia, yn canfod rhythm a gweithgarwch trydanol calonnau cleifion mewn gweithred sy'n cael ei galw'n electrogardiogram (ECG). Caiff synwyryddion sydd wedi'i hatodi i'r croen eu defnyddio i ganfod y signalau trydanol sy'n cael eu cynhyrchu gan y galon bob tro y bydd yn curo.
Caiff y canlyniadau eu dadansooddi gan Icentia a bydd staff y GIG yn cael gwybod ar unwaith am unrhyw abnormaleddau arwyddocaol, gan alluogi cleifion i dderbyn triniaeth brydlon, sy'n gallu amrywio o newidiadau i feddyginiaeth, i dderbyn rheoliaduron neu ffitio dyfeisiau diffibrilio cardiaidd.
Caiff y monitorau calon o bell eu defnyddio'n nodweddiadol ar gyfer cleifion sy'n dioddef crychguriadau trafferthus neu byliau o benysgafnder.
Dywedodd Helen Wilkinson Rheolwr Strategol Gwasanaethau Cardiaidd BIPBC:
“Cyn pandemig COVID-19, cafodd monitorau calon eu ffitio mewn clinigau ar safleoedd y Bwrdd Iechyd. Yna, byddai cleifion yn dychwelyd y monitor a byddai'r canlyniadau'n cael eu dadansoddi. Oherwydd y pandemig, ni allwn ddod â'r cleifion hyn i'n safleoedd llym oherwydd risg heintio COVID-19, lleihad mewn capasti clinigol a lefelau staffio is.
“Mae angen i ni fod yn arloesol gyda'n diagnosteg gan gadw ein cleifion yn ddiogel a chyflwyno'r bartneriaeth hon gydag Icentia yw'r datrysiad mwyaf amlwg.”
Dywedodd Claire Gallagher, Pennaeth Ffisioleg Gardiaidd yn Ysbyty Glan Clwyd:
“Oherwydd y pryderon a godwyd gan gleifion ynghylch dod i'r adran, mi wnes i rywfaint o ymchwil i edrych ar ffyrdd eraill y gallem barhau i gynnig gwasanaeth heb ddod â chleifion i mewn heb fod angen. Cysylltais ag Icentia a derbyniais ddau fonitor ar dreial a weithiodd yn dda, gan ddarparu recordiadau o ansawdd uchel o ddiogelwch cartref y claf."
Dywedodd Dr Richard Cowell, Cardiolegydd Ymgynghorol Arweiniol yn BIPBC, y byddai'r ymagwedd newydd yn helpu i ddelio â rhestr aros gynyddol am fonitorau ECG ar draws y rhanbarth.
Dywedodd Dr Cowell: “Mae nifer gynyddol o gleifion yn aros am fonitorau ECG parhaus neu hirfaith ac mae rhai cleifion risg fawr wrth reswm yn poeni'n fawr am ddod i'r ysbyty. Yn nodweddiadol, bydd y cleifion hyn yn cael crychguriadau trafferthus, pyliau o benysgafnder neu hyd yn oed lewygu.
“Gall abnormaleddau sy'n cael eu canfod ar y monitorau hyn arwain at driniaeth gyda chyffuriau i atal crychguriadau, cyffuriau gwrthgeulo i atal strôc, triniaeth gyda rheoliaduron neu hyd yn oed fewnblannu dyfeisiau diffibrilio cardiaidd”.
Bydd y Bwrdd Iechyd yn cysylltu'n uniongyrchol â'r holl gleifion cymwys.