Mae gwaith wedi dechrau i adeiladu Hwb Llawfeddygol newydd yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno, sy'n golygu bod yn rhaid i ni wneud newidiadau dros dro i'r ffordd y caiff rhai o'n gwasanaethau eu cynnig.
Bydd Clinigau Mynediad Cyflym y Fron sydd ar gael bob dydd Llun a dydd Mawrth yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno yn trosglwyddo dros dro i Ysbyty Gwynedd o 15 Ebrill, 2024. Caiff y clinigau hyn eu trosglwyddo'n ôl i Landudno unwaith y caiff y gwaith ar yr Hwb Llawfeddygol newydd ei gwblhau yn ddiweddarach eleni.
Bydd Clinigau'r Fron sy'n cael eu cynnal bob dydd Mercher yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno yn parhau i fod ar gael, ond bydd rhai newidiadau i gleifion lle bo angen prawf diagnostig.
Os bydd eich meddyg yn gofyn am famogram neu sgan uwchsain yn ystod eich apwyntiad yng Nghlinig y Fron, byddwch yn derbyn apwyntiad i dderbyn eich prawf diagnostig yn Ysbyty Gwynedd. Oherwydd y galw, os bydd arnoch angen mamogram a sgan uwchsain, efallai na fydd yn bosibl cynnig y ddau ar yr un diwrnod. Os na fyddwn yn gallu gwneud hyn i chi, byddwn yn sicrhau bod apwyntiad ar wahân yn cael ei drefnu i chi cyn gynted â phosibl.
Rydym yn deall y gallai'r newid dros dro hwn fod yn bryderus i rai o'n cleifion, ac y gallai rhai ohonoch deimlo bod Ysbyty Glan Clwyd neu Bron Brawf Cymru yn agosach atoch, ond mae'n bwysig os oes angen prawf diagnostig arnoch eich bod yn mynd i Ysbyty Gwynedd fel y gallwn sicrhau dilyniant gofal i chi.
Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra hwn ac rydym yn diolch i chi am eich dealltwriaeth yn ystod y newidiadau dros dro hyn i'n gwasanaethau.