Yn dilyn archwiliad diweddar heb rybudd gan Swyddogion Diogelwch Bwyd Cyngor Sir Ddinbych, darganfuwyd nad oedd nifer o oergelloedd ar lefel ward yn Ysbyty Glan Clwyd yn cael eu rheoli mewn cydymffurfiaeth â'r Ddeddf Diogelwch Bwyd.
Mae hyn wedi effeithio ar Radd Hylendid Bwyd cyffredinol yr ysbyty, sydd wedi'i ail asesu fel un pan roedd y sgôr blaenorol yn bedwar. Nid yw'r sgôr hwn yn adlewyrchu safonau hylendid bwyd yr adran arlwyo na gwasanaethau bwyd Ysbyty Glan Clwyd mewn unrhyw ffordd.
Dywedodd Gill Harris, Cyfarwyddwr Nyrsio a Bydwreigiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
"Mae'r archwiliad hwn wedi tynnu sylw at broblem gyda rheoli nifer fach o oergelloedd ar ein wardiau sy'n cael eu defnyddio i storio bwyd a diod dros ben ar gyfer cleifion. Mewn ymateb, rydym eisoes wedi cynnal archwiliad o'r mathau hyn o oergelloedd ar draws y Bwrdd Iechyd ac wedi atgyfnerthu ein prosesau ar gyfer gwirio tymheredd oergelloedd.
"Gallaf sicrhau staff, cleifion a'r cyhoedd nad oes digwyddiadau o salwch yn ymwneud â bwyd a diod wedi'i gofnodi yn Ysbyty Glan Clwyd ac mae'r staff arlwyo mewnol yn parhau i ddarparu gwasanaethau arlwyo o safon uchel o geginau newydd a modern.
"Gofynnwn i gleifion ac ymwelwyr ein helpu ni i gynnal diogelwch bwyd da drwy:
Nodiadau i olygyddion