Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad: Adroddiad Gwasanaeth Adolygu a Wahoddwyd gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion

23/07/2024

Yn ei gyfarfod ym mis Mai, bu’r Bwrdd Iechyd yn ystyried Adroddiad Gwasanaeth Adolygu Gwahoddedig Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, sef asesiad allanol o’r cynnydd a wnaed wrth roi adolygiadau hanesyddol ar waith. Roedd yn dangos lle mae’r Bwrdd Iechyd wedi gwneud cynnydd da a lle mae mwy i’w wneud.

Fel bwrdd fe wnaethom ailadrodd ein hymddiheuriad i'r bobl hynny a gafodd eu siomi. Yn anffodus, ni allwn newid yr hyn sydd wedi digwydd yn y gorffennol ond byddwn yn defnyddio eu profiad i fwrw ymlaen â chamau gweithredu sy’n arwain at welliannau i gleifion, gofalwyr, teuluoedd a staff.

Ers derbyn yr adroddiad rydym wedi gweithio gyda'n staff ac wedi tynnu ar brofiad cleifion, teuluoedd a gofalwyr i ddatblygu ein hymateb. Bydd hyn yn cael ei drafod yn y Bwrdd ar 25 Gorffennaf ac mae'n nodi'r ffordd y byddwn yn gweithio i wneud y gwelliannau hyn, gan gynnwys staff, cleifion, teuluoedd a rhanddeiliaid ehangach. Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at rywfaint o’r cynnydd sydd eisoes yn cael ei wneud, mewn perthynas â gofal dementia, cofnodion iechyd electronig ac ymdrechion gwirioneddol i gryfhau arweinyddiaeth, diwylliant a’r ffordd yr ydym yn ymgysylltu â phobl a chymunedau.

Drwy gydweithio, byddwn yn gwneud y gwelliannau sydd eu hangen ar ein gwasanaethau ac yn sefydlu ffordd gydweithredol o weithio ar gyfer y dyfodol gydag uchelgais gyffredin o ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i bobl Gogledd Cymru.