Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad Fasgwlaidd: 15 Tachwedd 2024

Fel rhan o'n hymrwymiad i wella'r gofal a roddwn, rydym wedi penderfynu gohirio darparu llawdriniaeth agored wedi'i chynllunio a brys ar gyfer anewrysm aortig yn yr abdomen (AAA).

Rydym yn gweithio'n agos gydag arbenigwyr fasgwlaidd yng Nghymru a'r DU yn ehangach a gyda'n clinigwr yn y Bwrdd Iechyd, mae'r penderfyniad hwn yn dilyn eu cyngor ar y cyd fel rhan o'n hasesiadau parhaus.

Yn y tymor byr, mae hyn yn golygu y bydd Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke, ochr yn ochr â'n clinigwyr, yn cynnig nifer fach o lawdriniaethau, oddeutu 10-15 bob blwyddyn. Rydym yn cydweithio â Stoke ers amser maith ac mae hyn yn adeiladu ar ddull partneriaeth cryf sy'n bodoli eisoes.

Bydd holl weithgarwch arall y gwasanaeth fasgwlaidd yn parhau yn ôl yr arfer.